Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Yr atomRhif atomig a rhif màs

Mae atomau'n cynnwys protonau, niwtronau ac electronau. Mae'r electronau wedi'u trefnu mewn plisg o gwmpas y niwclews.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Rhif atomig a rhif màs

Nifer y yn niwclews yw rhif atomig yr atom:

  • mae gan atomau o benodol i gyd yr un nifer o brotonau
  • mae gan atomau elfennau gwahanol niferoedd gwahanol o brotonau

Cyfanswm nifer y protonau a’r mewn atom yw rhif màs yr atom.

Mae’r rhif atomig wedi’i ddangos o dan y symbol cemegol, ac mae’r rhif màs uwchben y symbol. Yn yr enghraifft hon, y rhif atomig yw 17 a’r rhif màs yw 35. Mae hyn yn golygu bod gan bob un o’r atomau hyn:

Sgwâr clorin 35 o'r tabl cyfnodol. Mae'r rhif màs (35) yn y gornel chwith uchaf. Mae'r rhif atomig (17) yn y gornel chwith isaf.
Figure caption,
Symbol cemegol clorin–35
  • 17 proton
  • 17 electron
  • 35 – 17 = 18 niwtron

Isotopau

Isotopau yw atomau o elfen sydd â nifer normal o brotonau (ac ), ond niferoedd gwahanol o niwtronau. Mae gan isotopau yr un rhif atomig, ond rhifau màs gwahanol.

Tri isotop hydrogen

Mae’r rhan fwyaf o atomau hydrogen yn cynnwys un proton ac un electron yn unig, ond mae rhai hefyd yn cynnwys un neu ddau niwtron.

Tabl yn dangos tri isotop hydrogen, eu symbolau, a niferoedd y protonau, y niwtronau a'r electronau.
Trending Now