Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Calchfaen [TGAU Cemeg yn unig]Sefydlogrwydd carbonadau metel

Mae'r pwnc hwn yn sôn am sefydlogrwydd thermol gwahanol garbonadau metel, yn ogystal ag adweithiau penodol calchfaen (calsiwm carbonad), y ffyrdd o'i ddefnyddio, a goblygiadau ehangach ei ddefnyddio.

Part of CemegCalchfaen

Sefydlogrwydd carbonadau metel

Un adwaith cyffredin i unrhyw metel yw dadelfeniad thermol. Pan fydd carbonadau metel yn cael eu gwresogi, maen nhw’n dadelfennu i ffurfio ocsid y metel a nwy carbon deuocsid. Dyma rai enghreifftiau.

sodiwm carbonad → sodiwm ocsid + carbon deuocsid

Na2CO3(s) → Na2O(s) + CO2(n)

copr(II) carbonad → copr(II) ocsid + carbon deuocsid

CuCO3(s) → CuO(s) + CO2(n)

Mae anhawster yr adwaith dadelfennu hwn yn dibynnu ar adweithedd y metel yn y carbonad metel. Wrth edrych ar y ddwy enghraifft uchod, mae sodiwm yn fetel adweithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod sodiwm carbonad yn sefydlog iawn a bod angen tymheredd uchel i’w ddadelfennu. Fodd bynnag, mae copr yn fetel anadweithiol iawn - dyna pam mae’n ddefnyddiol i wneud pibellau dŵr - ac felly mae copr(II) carbonad yn eithaf ansefydlog ac yn dadelfennu ar dymheredd cymharol isel.

Mae perthynas rhwng sefydlogrwydd y carbonadau metel a chyfres adweithedd y metelau. Yr uchaf yn y gyfres yw’r metel, y mwyaf adweithiol yw’r metel, ac felly y mwyaf sefydlog yw’r carbonad.

Rhestr o fetelau o'r mwyaf adweithiol a'r carbonad mwyaf sefydlog (potasiwm) i'r lleiaf adweithiol a'r carbonad lleiaf sefydlog (platinwm).

Gallwn ni fesur sefydlogrwydd y carbonadau metel drwy wresogi’r carbonad a byrlymu’r carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu drwy ddŵr calch. Y cyflymaf mae’r dŵr calch yn troi’n llaethog, yr uchaf yw cyfradd dadelfennu’r carbonad (sy’n golygu bod y carbonad yn llai sefydlog).

Diagram yn dangos sut gallwn ni fesur sefydlogrwydd y carbonadau metel, yn yr achos hwn drwy wresogi copr(II) carbonad a gyrru'r swigod carbon deuocsid sy'n ffurfio drwy ddŵr calch.
Trending Now