Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Calchfaen [TGAU Cemeg yn unig]Ffyrdd o ddefnyddio calchfaen

Mae'r pwnc hwn yn sôn am sefydlogrwydd thermol gwahanol garbonadau metel, yn ogystal ag adweithiau penodol calchfaen (calsiwm carbonad), y ffyrdd o'i ddefnyddio, a goblygiadau ehangach ei ddefnyddio.

Part of CemegCalchfaen

Ffyrdd o ddefnyddio calchfaen

Mae - sy’n - yn adnodd gwerthfawr o gramen y Ddaear. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd.

  • Mae’n cael ei ddefnyddio fel defnydd adeiladu.
  • Mae’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu sment drwy wresogi powdr calchfaen gyda chlai. Mae sment yn gynhwysyn mewn morter a choncrit. Mae morter - sy’n cael ei ddefnyddio i ddal brics at ei gilydd - yn cael ei wneud drwy gymysgu sment â thywod a dŵr. Mae concrit yn cael ei wneud drwy gymysgu sment â thywod, dŵr ac agreg (sef creigiau wedi’u malu).
  • Mae’n un o brif gynhwysion past dannedd.
  • Mae’n gallu cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd i ddarparu calsiwm ar gyfer dannedd ac esgyrn cryf.
  • Mae’n gallu cael ei brosesu fel defnydd crai defnyddiol yn y diwydiant cemegol.
  • Mae’n gallu cael ei ddefnyddio i niwtraleiddio pridd asidig sy’n helpu planhigion i dyfu’n fwy effeithiol. Mae hyn yn cael ei wneud yn bennaf ar gyfer amaethyddiaeth ar raddfa fawr. Hefyd, mae modd defnyddio calch brwd a chalch tawdd i wneud hyn, ac i niwtraleiddio asidedd mewn ffynonellau dŵr fel llynnoedd.

Mae calchfaen hefyd yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ag amhureddau o’r ffwrnais chwyth wrth wneud haearn. Y prif amhuredd yw silicon deuocsid (sef tywod), ac mae’r calsiwm carbonad yn y calchfaen yn adweithio â’r silicon deuocsid i ffurfio calsiwm silicad (sef slag).

CaCO3(s) → CaO(s) + CO2(n)

CaO(s) + SiO2(h) → CaSiO3(s)

Mae calsiwm silicad yn llai dwys na’r haearn tawdd, felly mae’n arnofio ar ben yr haearn ac mae’n hawdd ei dynnu i ffwrdd.

Mae calchfaen yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu ffyrdd. Mae modd defnyddio’r gwastraff slag o’r ffwrnais chwyth i wneud hyn hefyd.

Mae’r rhan fwyaf o galchfaen yn dod o ganlyniad i chwarela, gan chwythu’r graig allan o’r ddaear mewn pyllau enfawr.

Golwg o fry o chwarel galch yn dangos haenau o garreg wedi ei chwarela ar ffurf grisiau
Image caption,
Y chwarel ar Fynydd Helygain, sir y Fflint
Trending Now