Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Calchfaen [TGAU Cemeg yn unig]Y gylchred galchfaen

Mae'r pwnc hwn yn sôn am sefydlogrwydd thermol gwahanol garbonadau metel, yn ogystal ag adweithiau penodol calchfaen (calsiwm carbonad), y ffyrdd o'i ddefnyddio, a goblygiadau ehangach ei ddefnyddio.

Part of CemegCalchfaen

Y gylchred galchfaen

Calsiwm carbonad

Mae calsiwm carbonad, calsiwm ocsid a chalsiwm hydrocsid i gyd wedi’u gwneud o ac yn cael eu defnyddio ar gyfer pethau pwysig, felly mae’n bwysig gwybod sut maen nhw’n cael eu gwneud.

Diagram yn dangos y cydosodiad i wresogi calsiwm carbonad i wneud calsiwm ocsid a charbon deuocsid.

Mae calsiwm carbonad yn bodoli’n naturiol mewn calchfaen. Pan fydd calchfaen yn cael ei wresogi’n gryf, mae’r calsiwm carbonad sydd ynddo’n amsugno gwres () ac mae’n i ffurfio calsiwm ocsid. Mae’r ffaith fod y calchfaen yn goleuo’n oren wrth gael ei wresogi yn dangos hyn.

calsiwm carbonad → calsiwm ocsid + carbon deuocsid

CaCO3(s) → CaO(s) + CO2(n)

Mae calsiwm ocsid (sef calch brwd) yn gynhwysyn pwysig wrth wneud sment ac mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i wneud rhai mathau o blastr.

Calsiwm ocsid

Mae calsiwm ocsid yn adweithio â rhai diferion o ddŵr i ffurfio calsiwm hydrocsid, sy’n . Mae hwn yn adwaith . Gallwn ni weld hyn gan fod y dŵr yn troi’n ager. Mae’r solid yn aros yn wyn ond mae’n briwsioni’n bowdr wrth i’r dŵr gael ei ychwanegu.

calsiwm ocsid + dŵr → calsiwm hydrocsid

CaO(s) + H2O(h) → Ca(OH)2(s)

Calsiwm hydrocsid

Mae calsiwm hydrocsid (sef calch tawdd) yn cael ei ddefnyddio i asidedd gormodol, er enghraifft, mewn llynnoedd a phriddoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan .

Mae calsiwm hydrocsid yn hydoddi mewn gormodedd o ddŵr i gynhyrchu hydoddiant calsiwm hydrocsid (dŵr calch), sy’n cael ei ddefnyddio i brofi am garbon deuocsid. Mae’r carbon deuocsid yn adweithio â’r calsiwm hydrocsid i ffurfio calsiwm carbonad gwyn, sy’n anhydawdd ac felly’n troi’r dŵr calch yn ‘llaethog’.

calsiwm hydrocsid + carbon deuocsid → calsiwm carbonad + dŵr

Ca(OH)2(dyfr) + CO2(n) → CaCO3(s) + H2O(h)

Diagram yn dangos sut mae carbon deuocsid yn adweithio â chalsiwm hydrocsid i ffurfio calsiwm carbonad gwyn, sy'n anhydawdd ac felly'n troi'r dŵr calch yn ‘llaethog’.

Mae’r adweithiau hyn i gyd wedi’u cysylltu â’i gilydd, ac yn ffurfio’r gylchred galchfaen.

Diagram o'r gylchred calchfaen.
Trending Now