Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

AnhafaleddauDefnyddio anhafaleddau

Mewn hafaliad mae’r arwydd 'yn hafal i' yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath, bydd angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.

Part of MathemategAnhafaleddau

Defnyddio anhafaleddau

Mewn hafaliad mae’r arwydd \(=\) yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond beth sy’n digwydd pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath? Mae angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.

  • Mae \(\textless\) yn golygu ‘llai na’
  • Mae \(\leq\) yn golygu ‘llai na neu hafal i’
  • Mae \(\textgreater\) yn golygu ‘mwy na’
  • Mae \(\geq\) yn golygu ‘mwy na neu hafal i’

Er enghraifft, os ydy \({x}\textgreater{2}\), a bod \({x}\) yn rhif cyfan, yna \({x} = 3,~4,~5,~6,~7, ...\) (mae \({x}\) yn fwy na \({2}\), ond nid yn hafal iddo, felly paid â chynnwys \({2}\)).

Os ydy \({y}\leq{4}\), a bod \({y}\) yn rhif cyfan, yna \({y} = 4,~3,~2,~1,~0,~-1, ...\) (mae \({y}\) yn llai na \({4}\) neu’n hafal iddo, felly cofia gynnwys \({4}\)).

Question

Os ydy \({z}\geq{3}\), a bod \({z}\) yn rhif cyfan, beth ydy gwerthoedd posibl \({z}\)?

Trending Now