Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

AnhafaleddauPlotio anhafaleddau ar linellau rhif

Mewn hafaliad mae’r arwydd 'yn hafal i' yn golygu bod y ddwy ochr yr un fath. Ond pan dydy’r ddwy ochr ddim yr un fath, bydd angen defnyddio anhafaleddau i ddangos y berthynas rhwng y ddwy ochr.

Part of MathemategAnhafaleddau

Plotio anhafaleddau ar linellau rhif

Gelli di ddangos anhafaleddau ar linell rif hefyd.

Defnyddia ddot gwag ar gyfer \(\textless\)

Defnyddia ddot gwag ar gyfer \(\textgreater\)

Defnyddia ddot wedi ei lenwi ar gyfer \(\leq\)

Defnyddia ddot wedi ei lenwi ar gyfer \(\geq\)

\({x}\geq{-1}\)

Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn fwy na neu’n hafal i \({-1}\)

Llinell rif yn dangos bod x yn fwy na neu’n hafal i -1

\({x}\textless{2}\)

Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn llai na \({2}\)

Llinell rif yn dangos bod x yn llai na 2

\(-{1}\leq{x}\textless{3}\)

Mae hyn yn dangos bod \({x}\) yn fwy na neu'n hafal i \({-1}\), ac yn llai na \({3}\)

\({x}\geq{-1}\) ac \({x}\textless{3}\).

Llinell rif yn dangos bod x yn fwy na neu’n hafal i -1, ac yn llai na 3

Sylwa ein bod ni wedi newid trefn y rhan gyntaf, ond mae’n dal i olygu’r un peth.

Mae \({x}\geq-{1}\) yn golygu’r un peth â \(-{1}\leq{x}\)

Question

Pa anhafaledd sydd wedi ei gynrychioli gan y llinell rif isod?

Llinell rif

Trending Now