Datrys anhafaleddau
Os nad ydy anhafaledd mor syml ag \({x} \textgreater {a}\), neu \({y}\textgreater{b}\), mae angen i ti ad-drefnu’r anhafaledd er mwyn gallu ei ddatrys.
Datrysa’r anhafaledd:
\({5y} + {1}\textless{26}\)
Yn gyntaf, mae angen cael y gwerthoedd \({y}\) ar eu pen eu hun, felly tynna \({1}\) o’r ddwy ochr i roi:
\({5y}\textless{25}\)
I ganfod \({y}\), rhanna’r ddwy ochr â \({5}\) i roi:
\({y}\textless{5}\)