Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Dim gan Dafydd ChiltonCyflwyniad

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Cyflwyniad

Wrth ymateb i Dim gan Dafydd Chilton bydd disgwyl i ti:

  • werthfawrogi cynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel
  • adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur, dyfynnu a thrafod addasrwydd
  • cyflwyno ymateb personol a chreadigol i’r nofel

Mae pob dyfyniad yn y canllaw hwn yn cael ei ddefnyddio gyda chaniatâd Y Lolfa.

Mae’r stori’n sôn am fywydau dau frawd, Gwyn ac Owain Lloyd, o gwm Llawenog, cwm yng nghesail mynyddoedd y Berwyn yn rhan uchaf Dyffryn Ceiriog. Mae’r stori’n adrodd hanes Gwyn ac Owain drwy gyfres o ddigwyddiadau go iawn yn y 30 mlynedd rhwng 1964 ac 1994.

Mae agoriad a chlo’r stori’n rhan o’r un olygfa yn 1994. Rhwng yr agoriad a’r clo mae corff y stori, sy’n esbonio ymateb Gwyn yn yr agoriad ac yn arwain at yr hyn mae’n ei wneud yn y clo.

Yr agoriad

Mae Gwyn yn darllen hanes damwain hofrennydd mewn papur newydd. Mae’n amlwg fod y ddamwain wedi achosi iddo ymateb yn emosiynol. Mae gweddill y stori, rhwng yr agoriad a’r clo, yn esbonio’r hyn sydd y tu ôl i’w ymateb emosiynol.

Symudai ei lygaid yn araf ac yn ofalus ar hyd y rhesi o luniau pen-ac-ysgwyddau a argraffwyd o un ochr y dudalen ddwbl lwyd i’r llall. Oedai ei lygaid am eiliadau ar bob llun. Roedd yn astudio’r wynebau, yn dwyn i gof yr enwau. Ac yn darllen y broliant byr, coffadwriaethol, o dan bob un. ... Yna’n dawel, a’r gollyngdod yn ysgwyd drwyddo, fe wylodd.

Y clo

Mae’r darllenydd yn deall y rheswm y tu ôl i ymateb emosiynol Gwyn yn yr agoriad, sef bod iawn wedi ei wneud am fywyd Owain. Mae Gwyn yn rhydd i symud ymlaen â’i fywyd ei hun ac yn cyflwyno ei fab ifanc i fyd natur.

Trending Now