Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Dim gan Dafydd ChiltonCrynodeb o'r stori - rhan dau

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Crynodeb o'r stori - rhan dau

Llinell amser o ddarluniau i arddangos manylion ail hanner plot 'Dim'.

Pennod saith

  • Mae Gwyn yn cofio hanes brwydr Maes Crogen yn 1165 ac yn ddiweddarach yn canfod bod iechyd Richard Lloyd yn dirywio.

Pennod wyth

  • Mae Owain yn cael ei recriwtio i gymryd rhan yn yr ymgyrch llosgi tai haf.
  • Mae e’n deall, o’r diwedd, y twll mae e ynddo, ac yn penderfynu’n ddistaw bach gwneud iawn am fod mor ffôl â’i fywyd.

Pennod naw

  • Noson y gwasanaeth diolchgarwch. Cyn mynd, mae Richard Lloyd yn nodi fel mae’r gwasanaeth yn cadarnhau cyswllt pobl â byd natur.
  • Yn y gwasanaeth ei hun mae Gwyn yn gweld Rhian Fedw ac yn syrthio mewn cariad â hi.
  • Ar y ffordd adref mae Richard Lloyd yn rhagweld ei farwolaeth ei hun.

Pennod deg

  • Mae Richard Lloyd wedi marw ac mae Owain yn dod adref i Flaencwm am y tro cyntaf ers talwm.
  • Mae’n amlwg fod Gwyn ac Owain erbyn hyn yn byw mewn dau fyd hollol wahanol.
  • Yn ystod eu sgwrs mae Owain yn cyfeirio at ei ‘waith’ yn llosgi tai.

Pennod 11

  • Mae Owain yn ne Georgia, ynys yn ne’r Iwerydd ar gyrch oedd yn rhan o ymgyrch Prydain yn y Malvinas/Falkland.
  • Mae holl rym byd natur yn cael ei amlygu ac mae awgrym fod y cyrch wedi ei drefnu yn y fath le a thywydd er mwyn cael gwared ar Owain.

Pennod 12

  • Mae Gwyn yn mynd i gyfarfod cyhoeddus i drafod sefydlu maes carafannau mewn hen chwarel yn Nyffryn Ceiriog.
  • Mae Gwyn yn gwrthwynebu’r datblygiad ac yn ymosod ar werth twristiaeth.

Pennod 13

  • Mae Owain yn marw mewn damwain hofrennydd yn rhyfel y Malvinas/Falkland.

Pennod 14

  • Deng mlynedd yn ddiweddarach mae Gwyn yn Bern, prifddinas y Swistir, lle mae e’n darganfod rhestr luniodd Owain o swyddogion Gogledd Iwerddon sy’n fradwyr.
  • Yno hefyd mae llythyr iddo gan Owain sy’n esbonio pam iddo gael ei ladd.
  • Mae Gwyn yn anfon y rhestr swyddogion bradwrus i lysgennad yr Unol Daleithiau.

Pennod 15

  • Disgrifiad o’r ddamwain hofrennydd ar y Mull of Kintyre a laddodd 29 o bobl a swyddogion gwasanaethau cudd Gogledd Iwerddon.
  • Yr awgrym yw bod hyn wedi ei wneud er mwyn gallu cael heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
  • Y bobl ar restr Owain yw nhw.
Trending Now