Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Dim gan Dafydd ChiltonPerthynas y prif gymeriadau â’i gilydd

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Perthynas y prif gymeriadau â’i gilydd

Dyn a byd natur

Y berthynas bwysicaf yn y stori yw’r berthynas rhwng dyn a byd natur. Mae’n bosibl gweld byd natur yn y stori fel rhywbeth i liwio’r cefndir, ond o’i weld felly mae gormod ohono. Mae pwrpas i’w bresenoldeb a’i gysylltiad â digwyddiadau dramatig.

Yn y nofel mae yna sawl enghraifft o fyd natur yn ffafrio neu’n gwarchod dyn ar ôl iddo fod yn ystyriol ohono:

  • buddugoliaeth y Cymry ym mrwydr Maes Crogen
  • gwasanaeth diolchgarwch lle mae Gwyn yn cyfarfod â’i gariad
  • y cyfarfod lle mae Gwyn yn gwrthwynebu ymelwa twristiaethol ac yn ennill ei ddadl
  • Gwyn yn goroesi

Pan mae dyn yn amharchus neu’n anystyriol o fyd natur mae pethau’n mynd o chwith, er enghraifft:

  • Owain yn amharchus o’r brwyn a’r griafolen ac mae e’n syrthio ac yn brifo
  • yn Llundain yng nghanol olion huddygl a diofalwch, mae Owain yn cael ei i fod yn llosgwr tai
  • yn rhyfel môr y de, mae Owain yn ffodus i ddianc o dde Georgia yn fyw, ond yno y caiff e ei laddyn hwyrach

Mae perthynas Richard Lloyd â byd natur yn un gyflawn a chlos.

Mae Gwyn yn datblygu perthynas debyg i hon erbyn diwedd y stori.

Dim ond o bell y mae Owain yn gweld byd natur ac erbyn iddo ddeall ei arwyddocâd, mae hi'n rhy hwyr.

Gwyn ac Owain â’i gilydd

Y berthynas fwyaf amlwg yn y stori yw’r berthynas rhwng Gwyn ac Owain. Nid yw hi'n berthynas o gyswllt uniongyrchol yn ystod rhan fwyaf y stori. Mae’r berthynas, am y rhan fwyaf o’r stori, yn y gwrthgyferbyniad rhwng y llwybrau bywyd maen nhw'n dewis eu dilyn.

Sut mae’r ddau yn cynnal y berthynas?

Gwyn

Mae Gwyn yn ceisio cynnal y berthynas drwy fod yn ofalus o’i frawd.

Mae ei weithredoedd dros ei frawd yn fwy dynol o annwyl, ac mae’n enwi ei fab ar ôl Owain.

Owain

Mae Owain yn ei gynnal drwy gydnabod cywirdeb ei frawd (yn ei lythyr tua diwedd y llyfr) - gweithred anrhydeddus i ddyn sydd wedi byw mewn, a gwasanaethu, diwylliant sy’n trin pobl o bell.

Trending Now