Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru. Dyma gyfnod 'Cwlt y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol oedd merched y beirdd. Ond 'roedd hollt enfawr rhwng cyfnos rhamantiaeth y beirdd a gwawr y rhyddfrydiaeth newydd a oedd yn torri uwch y wlad. Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn. 'Roedd sawl aelod o'r rhyw deg yn rhai dig. Nid oedd y rhain am dderbyn eu dyletswyddau traddodiadol, fel cynnal teulu, rheoli'r aelwyd a gofalu am y gegin, a gadael i ddynion reoli tynged y wlad. Y Goron Testun. Pryddest: 'Yr Arglwydd Rhys' Enillydd: W. J. Gruffydd Beirniaid: Ben Davies, R. Silyn RobertsYmateb a sylwadau Alan Llwyd Chwech yn unig yn cystadlu, a phryddest gymedrol yn hytrach na disglair yn ennill. Ar lawer ystyr yr oedd 'Trystan ac Esyllt' yn well pryddest na hi, mewn mannau o leiaf. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |