 |  | 1956 - 1966Wyneb Llwm Y Cwm Cau Ar ôl cyfnod gweddol lewyrchus yn hanner cyntaf y pumdegau dan y Llywodraeth Geidwadol, dechreuodd yr economi wegian unwaith yn rhagor. Dechreuodd y chwareli gau fesl un yn y Gogledd wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill. Ac wrth i'r chwareli gau, nid diwydiant yn unig a gollwyd, ond diwylliant arbennig bröydd y chwareli. Aeth Gwilym R. Tilsley â ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen. ymlaen... | | 

|
'Roedd y pyllau glo yn y De yn gorfod wynebu yr un math o her. Rhydwen Willams a roddodd inni bortread o'r cymunedau glofaol yn ei bryddest fuddugol 'Ffynhonnau' yn Eisteddfod Abertawe ym 1964. 'Roedd tirlun Cymru yn ogystal ag economi a diwylliant y wlad yn newid, a gwlad y creithiau, nid gwlad y gweithiau, oedd hi bellach. Diffeithdra a diweithdra a nodweddai rannau helaeth o Gymru bellach. Dyna oedd y thema ym mhryddest fuddugol Tom Huws, 'Cadwyni', yn Eisteddfod Caernarfon 1959: Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, Stelcian, stilio a sgwrs, Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener, Loetran o gwmpas T^y'r Crydd a'r Lôn Newydd, A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.
ymlaen... |
|