1914-1937 Y Gaer Fechan Olaf Erbyn 1914 'roedd technoleg y ffilm wedi datblygu, ac 'roedd yn barod i gofnodi rhith a realaeth, ffantasi a ffaith. 'Roedd yn barod i gofnodi digwyddiadau hanesyddol yr ugeinfed ganrif. 'Roedd ffilm wedi rhoi rhyfel y Boeriaid ar gof a chadw ond 'roedd ar fin creu cofnod parhaol o un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif. Ym mis Medi 1914 aeth Franz Ferdinand, nai Ymerawdawr Awstria a Brenin Hwngari, i Sarajevo, prifddinas Bosnia. Saethwyd Franz Ferdinand gan genedlaetholwr ifanc. Lladdodd yr un fwled honno dros ddeng miliwn o bobl.'Roedd blynyddoedd o genedlaetholdeb, imperialaeth a militariaeth yn Ewrop ar fin ffrwydro'n rhyfel. Mudiad cudd o Serbia oedd y tu ôl i'r weithred o ladd Fraz Ferdinand ac ymhen mis wedi'r llofruddiaeth aeth Serbia ac Awstria-Hwngari i ryfel ar 28 Gorffennaf 1914. ymlaen... | | 

|