1900-1913 Awelon Croes Gwawriodd y ganrif newydd pan oedd oes Victoria yn machlud. 'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym. 'Roedd y papurau newydd, gan gynnwys y wasg Gymreig, yn cynyddu mwy a mwy yn eu poblogrwydd. Hon oedd oes aur newyddiaduriaeth. Y Torîaid a enillodd Etholiad Cyffredinol troad y ganrif, ond cadarnle'r Blaid Ryddfrydol oedd Cymru. Un o brif wleidyddion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru oedd David Lloyd George, yr Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon. Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen. Diwrnod Lloyd George ar ddydd Iau'r cadeirio oedd un o uchelfannau pob eisteddfod. Er mai'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr oedd prif bleidiau Prydain, 'roedd pethau'n dechrau newid. ymlaen... | | 

|