Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Er bod hwn yn gyfnod o wrthdaro ac o aniddiddigrwydd ymysg rhai merched a gweithwyr, 'roedd y gerdd hon yn adlewyrchu meddylfryd y cyfnod Edwardaidd: cyfnod o ffyniant a chyfnod o heddwch a hawddfyd. 'Roedd mwy o amser i hamddena ar ôl i'r undebau ymladd am lai o oriau gwaith ac ar ôl cyllideb chwyldroadol Lloyd George. Awdl 'Yr Haf' yw un o awdlau gorau'r ugeinfed ganrif hyd y dydd hwn. Cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd rhyw fath o anterth ym 1910. Awdl am Anfarwoldeb Serch, sef un o brif themâu'r beirdd rhamantaidd, oedd 'Yr Haf', ac 'roedd yn drwm dan ddylanwad cyfieithiad John Morris-Jones o benillion Omar Khayyâm, fel llawer o gerddi'r Rhamantwyr. Y Goron Testun. Pryddest: 'Ednyfed Fychan' Enillydd: Crwys Beirniaid: Cadfan, Gwynedd, Gwili Cerddi eraill: daeth Alafon yn ail.Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest arall ar destun hanesyddol, dull o ganu a oedd wedi hen chwythu ei blwc erbyn 1910. Pryddest anarbennig yw pryddest Crwys. Y Fedal Ryddiaith Sefydlwyd ym 1937
Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990
Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |