Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Awdl yn delfrydu'r gorffennol fel bro berffaith yw hon, ac fel 'Pererinion' a 'Hydref', ceir ynddi ymchwil am fro ddelfrydol ymhell y tu hwnt i'r presennol rhyfelgar a barbaraidd. Y Goron Testun. Pryddest: 'Rhosydd Moab' neu 'Hywel ab Owain Gwynedd' Enillydd: Dafydd Owen ('Rhosydd Moab') Beirniaid: W. J. Gruffydd, Wil Ifan, G. J. Williams Cerddi eraill: T. Rowland Hughes a ddaeth yn ail i Dafydd Owen. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Y thema yw'r modd y gwelai W. R. Jones o Sir Aberteifi, cyfaill i'r bardd buddugol, ei Ganaan o Rosydd Moab ei ddioddefaint ac yntau'n marw o'r ddarfodedigaeth ar y pryd. Y Fedal Ryddiaith Rhwng 1942 a 1944. Y bwriad oedd cyflwyno'r Fedal am waith gorau y blynyddoedd 1942 ยด 1944 ym 1945, ond ni chafwyd teilyngdod. Tlws y Ddrama Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993 Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |