Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr. Difethir yr awdl gan gynganeddu cras, geirfa hynaflyd, ar brydiau, a mynegiant afrwydd. Y Goron Testun. Pryddest: 'O'r Dwyrain' Enillydd: Euros Bowen Beirniaid: Crwys, Saunders Lewis, T. Eirug Davies Cerddi eraill: Yr ail oedd Elwyn Evans, mab Wil Ifan, a oedd wedi llunio pryddest afaelgar, gref am ei brofiadau fel milwr yn yr Ail Ryfel Byd. Ceir ynddi rai darnau beiddgar iawn. 'Roedd Harri Gwynn wedi cystadlu hefyd. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Newydd ddechrau barddoni ym 1947 yr oedd Euros Bowen. Cerdd am yr haul yn codi o'r dwyrain fel grym daionus yw hon, cerdd am ddarpariaeth Duw ar gyfer dyn ac am draddodiad Cristnogol Cymru. Pryddest ar ffurf vers libre cynganeddol ydyw, ac mae'r cynganeddu yn gwmpasog ac yn brentisaidd yn aml. Y Fedal Ryddiaith Gwobrwywyd traethawd Dafydd Jenkins, Y Nofel: Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen , a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1946. Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Islwyn Williams Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |