Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Awdl a luniwyd ychydig cyn i'r gweithfeydd glo ddechrau cau fesul un. Yn y gerdd hon 'roedd Gwilym R. Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant. Ni lwyddodd ychwaith i wir gyfleu ing a chyni glowyr De Cymru. Er iddi ddod yn awdl boblogaidd, rhwydd yw'r cynganeddu a braidd yn arwynebol yw'r cynnwys a'r mynegiant. Y Goron Testun. Pryddest: 'Ifor Bach', 'Y Gaethglud' neu 'Difodiant' Enillydd: Euros Bowen ('Difodiant') Beirniaid: T. Eirug Davies, J. M. Edwards, Caradog Prichard Cerddi eraill: Harri Gwynn oedd yr ail. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Yn ei bryddest mae Euros Bowen yn sôn am y bygythiad newydd a ddaeth wedi'r Ail Ryfel Byd, y gwrthdaro rhwng y gorllewin a'r dwyrain, rhwng y system gyfalafol a chomiwnyddiaeth, sef cyfnod y Rhyfel Oer, a'r byd dan gysgod difodiant. Cerdd vers libre cynganeddol oedd pryddest fuddugol 1950 hefyd, ac mae'n gerdd rymus iawn mewn mannau. Cerdd apocalyptaidd fel llawer o gerddi'r pedwardegau yn Saesneg. Y Fedal Ryddiaith Penderfynwyd gwobrwyo'r gwaith gorau rhwng 1948 a 1950. Dyfarnwyd y Fedal ym 1951 i R. Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth , traethawd a wobrwywyd ym 1948. Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |