Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Yn yr awdl hon mae'r bardd yn dychwelyd at y thema gyfarwydd o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonydd yn eu beddau am fod yr heddwch eto yn fregus dan gysgod y bom. Mae Brinley Richards hefyd yn cyfeirio at y problemau a oedd yn wynebu Cymru wedi'r Rhyfel. Erbyn 1945 'roedd 10% o dir Cymru yn eiddo i'r Swyddfa Rhyfel. Ar ôl cipio mynydd Epynt, daeth y bygythiad i feddiannu rhan o fynydd y Preselau yn Sir Benfro, a bygythiad arall ar ddechrau'r pumdegau i feddiannu pum mil o aceri yn Nhrawsfynydd, yn ychwanegol at y gwersyll a oedd yno. Awdl am bynciau cyfoes oedd hon, ond nid oedd awdl arbennig. Y Goron Testun. Pryddest: 'Adfeilion' neu 'Llywelyn Fawr' Enillydd: T. Glynne Davies ('Adfeilion') Beirniaid: T. H. Parry-Williams, Gwilym R. Jones, J. M. Edwards Cerddi eraill: Gosodwyd pryddest gan Harri Gwynn yn uchel yn y gystadleuaeth. Yr oedd Tom Parry-Jones a John Eilian hefyd yn y gystadleuaeth. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Clodforwyd T. Glynne Davies am ennill y Goron yn ei dref enedigol ac am osod safonau newydd i feirdd newydd ail hanner yr ugeinfed ganrif. Dyma un o bryddestau gorau'r Eisteddfod Genedlaethol. 'Bydd y gerdd yma yn iechyd i farddoniaeth Gymraeg heddiw, oherwydd fe ddengys y gellir cynhyrchu gwaith o radd uchel yn y dull newydd yn ein hiaith ni, a hynny heb fod yn euog o rai pethau ag y bydd condemnwyr y canu modern yn hoff o'u hanelu ato,' meddai J. M. Edwards yn ei feirniadaeth. Pryddest am ddiboblogi cefn-gwlad, wrth i'r ddinas hudo trigolion y wlad, ac am farwolaeth hen ffordd o fyw. Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled. Bu'n bryddest ddylanwadol iawn drwy gydol y pumdegau a'r chwedegau pan ddaeth 'Adfeiliaeth' yn thema gyffredin mewn barddoniaeth eisteddfodol. Y Fedal Ryddiaith Deunydd cyfrol o ryddiaith greadigol Enillydd: Islwyn Ffowc Elis ( Cyn Oeri'r Gwaed ) Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |