Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Awdl gyffredin iawn. Y Goron Testun. Pryddest: 'Y Creadur' neu 'Unrhyw Chwedl Gymreig' Enillydd: Neb yn deilwng Beirniaid: Euros Bowen, W. J. Gruffydd, David Jones Cerddi eraill: Harri Gwynn, Gerallt Jones. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Dyma 'Eisteddfod y Sgandal'. Credai W. J. Gruffydd mai Bobi Jones oedd Efnisien yn y gystadleuaeth, ac ni fynnai roi'r Goron iddo. Ni allai Gruffydd stumogi moderniaeth Bobi Jones, ac ar ben hynny, 'roedd Bobi Jones wedi bod yn feirniadol o farddoniaeth Gruffydd a rhai aelodau o'i genhedlaeth. Harri Gwynn, fodd bynnag, oedd Efnisien , ac iddo ef y dymunai Euros Bowen roi'r Goron. Y Fedal Ryddiaith Testun: Y gyfrol orau o erthyglau neu/ac ysgrifau Enillydd: O.E. Roberts ( Cyfrinachau Natur ) Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Gwynne D. Evans Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |