Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 'Roedd John Evans yn sôn am yr argae a foddodd bentref Llanwddwyn yn Sir Drefaldwyn yn wythdegau'r ganrif flaenorol er mwyn cyflenwi Lerpwl â d^wr. 'Doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigon bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos. Ymhen ychydig flynyddoedd byddai un o bentrefi bychain Cymreiciaf Meirionnydd, pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, hefyd yn cael ei foddi i gyflenwi Lerpwl â d^wr; ond ymhell cyn i neb glywed am fwriad y Llywodraeth i foddi unrhyw gwm neu ddyffryn yng Nghymru, cadeiriwyd John Evans am awdl broffwydol, er na fwriadwyd iddi fod yn broffwydol. Y Goron Testun. Pryddest: 'Y Bannau' Enillydd: E. Llwyd Williams Beirniaid: Pennar Davies, S. B. Jones, Alun Llywelyn-Williams Cerddi eraill: Harri Gwynn, ac nid E. Llwyd Williams, oedd dewis Alun Llywelyn-Williams. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Pryddest debyg i awdl 'Y Graig', Rolant o Fôn, yn y modd y mae'n edrych yn ôl ar hynt y canrifoedd. Medrus ond heb fod yn arbennig. Y Fedal Ryddiaith Testun: Cyfrol o erthyglau Enillydd: O.E. Roberts ( Y G^wr o Ystradgynlais ) Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |