Lleoliad yr Eisteddfod Caerdydd Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol - Ethol John F. Kennedy yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
- Harold Macmillan yn cynhyrfu'r dyfroedd yn Ne Affrica gyda'i araith 'wind of change'.
- 56 yn cael eu lladd a 162 yn cael eu hanafu yn y galanastra yn Sharpville, Transvaal.
- Mil o fyfyrwyr du yn cynnal protest yn Alabama yn erbyn neilltuad.
- Gwasanaeth Milwrol Gorfodol yn dod i ben.
- Gorfodwyd 5,300,000 i ymuno รข'r Lluoedd Arfog.
- Michael Foot yn ennill is-etholiad yng Nglyn Ebwy.
- 45 o lowyr yn cael eu lladd mewn ffrwydrad yng nglofa Six Bells, Aberbig, Gwent.
- Esso yn agor y burfa olew gyntaf yn Hwlffordd.
- Cau rheilffordd y Mwmbwls, y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i gario teithwyr.
- Llifogydd yn creu difrod yn nghanolbarth Cymru a Chaerdydd. 'Roedd 0 o dai dan ddwr yng Nghaerdydd a phedair troedfedd o ddwr ar Barc yr Arfau.
- Erlyn cwmni cyhoeddi Penguin am ffieidd-dra am gyhoeddi nofel D.H. Lawrence Lady Chatterley's Lover. Ond y llys yn penderfynu nad oedd y llyfr yn frwnt. Arweiniodd hyn yn ei dro at gyhoeddi Ieuenctid yw 'Mhechod gan John Rowlands, y nofel Gymraeg gyntaf i roi disgrifiad manwl o'r weithred rywiol.
- Y BBC yn gofyn am ail sianel deledu.
- Pris cwrw yn codi o geiniog y peint i 3/7 ( llai na 18c )
- Marw Ny Bevan, Sylvia Pankhurst, Albert Camus, Neville Shute, Boris Pasternak a Clark Gable.
Archdderwydd Tre-fin Y Gadair Testun. Awdl: 'Dydd Barn a Diwedd Byd' neu 'Morgannwg' Enillydd: Neb yn deilwng Beirniaid: Gwenallt, Meuryn, S. B. Jones Cerddi eraill: Gwilym Ceri Jones, James Nicholas, W. T. Gruffydd |