Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Yr oedd Thomas Parry yn dymuno cadeirio Euros Bowen, ond yr oedd yn rhy dywyll gan y ddau feirniad arall. Yn sicr, Thomas Parry oedd yn gywir. Mae 'Genesis' Euros Bowen yn awdl gyfoethog iawn mewn mannau, er gwaethaf sawl darn afrwydd ei fynegiant. Y Goron Testun. Pryddest: ' Y Bont' Enillydd: Tom Parri-Jones. Beirniaid: Cynan, Gwilym R. Jones, Waldo Williams Cerddi eraill: mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef. 'Roedd pryddestau gan Dafydd Jones, Ffair-rhos, Gwilym Morris. Gwyn Erfyl a Rhydwen Williams yn y gystadleuaeth hefyd. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cerdd anodd ar ffurf dialog oedd y bryddest hon, ond fe lwyddodd Tom Parri-Jones i danlinellu rhybudd a wnaed gan bobl fel Saunders Lewis, sef bod derbyn yr egwyddor ' Bread before beauty' yn warth ar y genedl. I nifer 'roedd y bwriad i adeiladu gorsafoedd niwcliar yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa ym Môn yn Benyberth arall. Ond 'doedd neb yn fodlon gwrando ar y proffwydi gwyrdd cynnar, ac aeth y gwaith yn ei flaen. Y Fedal Ryddiaith Testun: Llyfr Taith Enillydd: W. Llewelyn Jones: Ar Grwydr Tlws y Ddrama Gwilym T. Hughes Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |