Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dyma un o awdlau gorau ail hanner yr ugeinfed ganrif yn sicr. 'Roedd diffuantrwydd profiad a mynegiant yn un ynddi. Y Goron Y Goron. Testun. Pryddest: 'Ffynhonnau' Enillydd: Rhydwen Williams Beirniaid: T. H. Parry-Williams, W. J. Gruffydd, Eirian Davies Cerddi eraill: Y pum bardd gorau yn y gystadleuaeth oedd L. Haydn Lewis, G. J. Roberts, T. R. Jones, John Roderick Rees a Rhydwen Williams. Dymunai T. H. Parry-Williams goroni John Roderick Rees. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra. Cerdd am wydnwch a phenderfyniad trigolion Y Rhondda yn nannedd tlodi a chyni. Y Fedal Ryddiaith Testun: Nofel Enillydd: Rhiannon Davies Jones: Lleian Llanllyr Tlws y Ddrama Hanner y wobr i Gwilym T. Hughes Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |