Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl afrwydd a chlogyrnaidd ei chynghanedd er cof am Waldo Williams. Y Goron Testun. Pryddest: 'Dadeni' Enillydd: Dafydd Rowlands Beirniaid: J. Gwyn Griffiths, L. Haydn Lewis, Bobi Jones Cerddi eraill: Pryddest gan W. R. P. George a ffafriai L. Haydn Lewis. 'Roedd Dafydd Rowlands wedi anfon dwy bryddest i'r gystadleuaeth. Cystadleuydd arall yn y dosbarth cyntaf oedd R. Gwilym Hughes. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Mae Dafydd Rowlands yn dychwelyd at y thema o barodrwydd yr ifainc i brotestio a dioddef er mwyn eu hachos. Erbyn hyn fe welwyd ffrwyth y brotest arwyddion ffyrdd wedi i'r Llywodraeth gytuno i osod arwyddion dwyieithog, Yn y gerdd hon nid gofyn 'paham yr anniddigrwydd' y mae'r bardd, ond edmygu gwydnwch y protestwyr yn hytrach. Pryddest grefftus. Y Fedal Ryddiaith Deuddeg o ysgrifau creadigol Enillydd: Dafydd Rowlands (Ysgrifau yr Hanner Bardd) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Urien Willam (a £50 i Bernard Evans) Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |