Y Goron Testun: Cerdd hir neu ddilyniant o gerddi yn portreadu llencyndod Enillydd: Siôn Eirian Beirniaid: Dafydd Rowlands, Gwyn Thomas, Alun Llywelyn-Williams Cerddi eraill: Y tri gorau oedd Siôn Eirian, Donald Evans a Gwynn ap Gwilym, a barnwyd fod y tri yn deilwng o'r Goron. I Donald Evans y dymunai Dafydd Rowlands roi'r Goron. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn. 'Roedd Rhyfel Fietnam wedi dod i ben, ac 'roedd hawliau sifil y duon yn America wedi gwella. Edrychodd Siôn Eirian yn ôl yn hiraethus ar gyfnod y mudiad protest yn ei gerdd 'Ymgais i Weithredu', er enghraifft. 'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau. Dilyniant cyffrous a ffres. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol ar ffurf darn o hunangofiant: Trobwynt neu Argyfwng Enillydd: Harri Williams (Trobwynt) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |