Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cystadleuaeth wael oedd hon, gyda deg yn cystadlu (ond truth digynghanedd oedd un cynnig). Canodd John Gwilym Jones, yr unig fardd teilwng yn y gystadleuaeth, am frwydr claf i ailfeddiannu ei iechyd, a gwnaeth hynny yn afaelgar ar adegau, er enghraifft: Byw clyd rhwng wynebau clos, Byw diogel byd agos.
Y Goron Testun. Pryddest: 'Wynebau' Enillydd: Siôn Aled Beirniaid: Dafydd Jones, Gwilym R. Jones, Gwyn Thomas Cerddi eraill: Un o'r beirdd aflwyddiannus oedd T. Glynne Davies. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest gymedrol a llawer o wallau iaith ynddi. Pryddest yn ymateb i'r byd pop Cymraeg ac i argyfwng yr iaith oedd hon.
Y Fedal Ryddiaith Wyth i ddeg o ysgrifau creadigol Enillydd: John Gruffydd Jones (Cysgodion ar y Pared) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: John R. Evans Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |