Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth. Cafodd cefnogwyr y Cynulliad i Gymru eu siomi gan ganlyniad y Refferendwm ar Ddatganoli. 'Roedd pedwar ugain mlynedd o ymgyrchu dros ryw fath o ymreolaeth wedi mynd i'r gwellt. 'Roedd hyder a gobeithion y Cymry yn isel ar ddechrau'r wythdegau. Yr oedd yr awdl rymus hon yn sugno maeth ac ysbrydoliaeth o'r gorffennol, i'n hatgyfnerthu ar gyfer y blynyddoedd tywyll o'n blaenau. Dyma un o awdlau mwyaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ugeinfed ganrif. Y Goron Testun: Dilyniant o gerddi ar y testun 'Y Rhod' Enillydd: Eirwyn George Beirniaid: J. Eirian Davies, Bobi Jones, Rhydwen Williams Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dilyniant crefftus, cymen am fannau, llecynnau a henebau yn Sir Benfro.
Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith greadigol Enillydd: Gwilym Meredith Jones (Ochr Arall y Geiniog) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Nan Lewis Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |