Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl dyner er cof am ferch dalentog y bardd, Ennis. Yr 'ynys' yn yr awdl yw 'Ynys Hiraeth'. Ynddi y ceir y llinellau syfrdanol: Yma mae mynwent i'w mam a minnau, un â'i phob diwrnod yn Sul y Blodau. Yn y tawelwch bydd i'r petalau eu llond o siarad lle nid oes eiriau ...
Dyma'r gyntaf o'r gyfres o awdlau marwnad a gafwyd yn yr wythdegau. Enillodd brawd Einion Evans, T. Wilson Evans, y Fedal Ryddiaith yn yr un Eisteddfod. Y Goron Testun. Pryddest: 'Clymau' Enillydd: Eluned Phillips Beirniaid: James Nicholas, Dr John Gwilym Jones, Nesta Wyn Jones Cerddi eraill: John Gruffydd Jones. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Nid Margaret Thatcher oedd yr unig fenyw i fod ar ei hennill wedi rhyfel y Malvinas, ond fe gymerodd Eluned Phillips agwedd dra gwahanol i agwedd ymffrostgar y Prif Weinidog. 'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd. Y Fedal Ryddiaith Nofel fer Enillydd: T. Wilson Evans (Y Pabi Coch) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: William Owen Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |