Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Robat Powel oedd y dysgwr cyntaf i ennill y Gadair. 'Roedd ef ei hun wedi gweld sawl tro ar fyd. Os oedd brwdfrydedd y dysgwyr yn dod â hyder newydd i Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n groes i'r hyder hwnnw. Collwyd miloedd o swyddi wrth i weithiau dur gau. 'Roedd Robat Powel yn dyst i'r distawrwydd a adawyd ar ôl i'r ffwrneisiau ddiffodd yng Ngwent. Y Goron Testun. Pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Glannau' Enillydd: John Roderick Rees Beirniaid: Donald Evans, Dafydd Owen, Gwyn Thomas Cerddi eraill: Gerwyn Williams oedd yr ail yn ôl Donald Evans a Dafydd Owen. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Pryddest farwnadol dyner am Jane Mary Walters, y wraig a fu'n gyfrifol am fagu'r bardd wedi iddo golli ei fam yn ddwyflwydd a hanner oed. Pryddest ddiffuant. Y Fedal Ryddiaith Dyddiadur yn cofnodi treigl y tymhorau Enillydd: Meg Elis (Cyn Daw'r Gaeaf) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |