Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl gref a diffuant er cof am dad y bardd. Y Goron Testun. Pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Llwch' Enillydd: T. James Jones Beirniaid: Dafydd Rowlands, W. R. Evans, Gwyn Thomas Cerddi eraill: Pryddest gan Wyn Hobson a ffafriai Gwyn Thomas. Yn y gystadleuaeth hefyd yr oedd T. Glynne Davies a Robin Llwyd ab Owain. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Un o gerddi mwyaf arbennig cystadleuaeth y Goron yn yr ugeinfed ganrif, cerdd angerddol, ddwys am berthynas dau gariad ac am glymau teuluol, mewn arddull dafodieithol-lafar. Y Fedal Ryddiaith Hunangofiant Enillydd: Ray Evans (Y Llyffant) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: John Gruffydd Jones Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |