Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Mae'r awdl hon yn mynd â ni yn ôl i gychwyn y ganrif wrth i Ieuan Wyn ystyried eto y dioddefaint a fu yn Nyffryn Ogwen yn ystod Streic y Penrhyn. Mae'n cofio am aberth y merched a fu'n gefn i holl ymdrechion eu g^wyr a'u meibion, y merched a fu'n dioddef y cyni yn dawel. Yn agos at ddiwedd canrif, pan oedd safonau byw a gwaith wedi gwella tu hwnt i holl obeithion yr ymgyrchwyr cynnar, 'roedd Ieuan Wyn yn ein hatgoffa nad oes ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau yfory heb gofio am frwydrau ddoe. Yr hyn a geir yn yr awdl yw'r meddyliau a'r myfyrdodau a ddaw iddo wrth glirio t^y ei daid a'i nain, ac mae hi'n awdl gref, yn enwedig mewn mannau. Y Goron Testun: Casglaid o gerddi ar y thema 'Breuddwydion' Enillydd: John Gruffydd Jones Beirniaid: Bobi Jones, E. G. Millward, John Roderick Rees Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cawsom ein hatgoffa am yr ail dro yn Eisteddfod Bro Madog am ein dyled i'r gorffennol. Yn ei gerdd 'Arras' mae John Gruffydd Jones yn mynd â ni yn ôl i ffosydd y Rhyfel Mawr, a gwelwn eto nad yw'r meirw wedi marw. Mae'r Rhyfel yn gwaedu yn y cof o hyd, a chenhedlaeth yn cofio cenhedlaeth. Cofiodd John Gruffydd Jones am ei dad yn ymladd yn Arras. Casgliad o gerddi crefftus, gwych. Y Fedal Ryddiaith Cyfres o storïau byrion cyfoes Enillydd: Margiad Roberts (Sna'm llonydd i' ga'l!) Tlws y Ddrama Drama hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |