Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl wych mewn cystadleuaeth gref. Awdl delynegol, gynnil yw'r awdl fuddugol, a cheir ynddi stori serch ddwys. Mae'n astudiaeth o ddyn yn ei brofedigaeth, ei hiraeth a'i unigrwydd. Y Goron Casgliad o Gerddi: 'Melodïau' Enillydd: Aled Gwyn Beirniaid: Derec Llwyd Morgan, Menna Elfyn, Meirion Evans Cerddi eraill: Norman Closs Parry, Aled Lewis Evans, Gwyneth Lewis. Gwyneth Lewis oedd dewis Menna Elfyn. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cerddi dwys a thyner am golled deuluol bersonol. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith greadigol: 'Aml Gnoc ... ' Enillydd: Angharad Jones (Y Dylluan Wen) Tlws y Ddrama Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993 Tlws y Cerddor Guto Pryderi Puw Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |