Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dyma awdl arall sydd yn dangos y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a gafwyd o fewn hanner can mlynedd. 'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt. 'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau, prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd drwy i ddyn ymyrryd â natur. Dyna'r byd y mae'r awdl drist hon yn ei adlewyrchu ac yn perthyn iddo. Y Goron Testun. Pryddest i nifer o leisiau: 'Branwen' Enillydd: Cen Williams Beirniaid: Nesta Wyn Jones, Gwyn Thomas, John Roderick Rees Cerddi eraill: I Ifor ap Glyn y dymunai John Roderick Rees roi'r Goron, a byddai Nesta Wyn Jones wedi coroni Siân Northey oni bai am bryddest Cen Williams. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Ailadroddwyd chwedl Branwen yn y Mabinogi yn grefftus iawn, gan roi i'r chwedl arwyddocâd oesol. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith greadigol ar y thema 'Y Canol Llonydd' Enillydd: Angharad Tomos (Wele'n Gwawrio) Tlws y Ddrama Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993 Tlws y Cerddor Guto Pryderi Puw Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |