Y Goron Testun. Dilyniant o Gerddi: 'Rhyddid' Enillydd: Emyr Lewis Beirniaid: Menna Elfyn, John Gruffydd Jones, Alan Llwyd Cerddi eraill: Yr ail oedd Grahame Davies. Yn y gystadleuaeth hefyd yr oedd dau o Brifeirdd y gorffennol, Siôn Aled ac Elwyn Roberts, ac un o Brifeirdd y dyfodol, Ifor ap Glyn. Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Dilyniant rhagorol o gerddi ac Amser yn thema iddyn nhw. Dilyniant cyfoethog o ran ei ddelweddau a'i fynegiant yn sôn am yr 'amser arall', sef yr amser a warchodir drwy gyfrwng atgofion, dychymyg a breuddwydion rhag rhaib amser gwirioneddol. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith gyda chefndir diwydiannol Enillydd: Eirug Wyn (Blodyn Tatws) Tlws y Ddrama Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993 Tlws y Cerddor Michael John Charnell-White Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |