 |  | Lleoliad yr Eisteddfod Môn Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol - NATO yn cynnal ymgyrch yn erbyn Slobodan Milosevic, Arlywydd Serbia, i amddiffyn Albaniaid Kosovo rhag ei bolisi o lanhad ethnig.
- Yr Adroddiad ar yr ymchwiliad cyhoeddus i lofruddiaeth Stephen Lawrence ym 1993 yn cyhuddo'r Heddlu o fwnglerwaith a hiliaeth.
- Eric Harris (18 oed) a Dylan Klebold (17 oed) yn lladd 12 o'u cyd-ddisgyblion ac yn anafu 20 arall yn Columbine High School, Denver, Colorado, cyn eu lladd eu hunain.
- Nelson Mandela yn ymddeol a Thabo Mbeki yn ei olynu.
- Agor y Cynulliad yng Nghaerdydd.
- Alun Michael yn cael ei ethol i arwain y Blaid Lafur yn y cynulliad yn lle Rhodri Morgan. Bu cyhuddiadau bod Michael yn was bach i Tony Blair a bod dulliau anheg wedi eu defnyddio i'w ethol.
- Yn etholiadau cyntaf y cynulliad y Blaid Lafur ydi'r blaid fwyaf ond heb fwyafrif dros yr holl bleidiau eraill. Collodd y Blaid Lafur seddi i Blaid Cymru mewn manau oedd unwaith yn ei cadarnleoedd.
- Brwydyr ffyrnig am arweinyddiaeth y Toriaid yn y cynulliad rhwng Rod Richards a Nick Bourne.
Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn 'lefarydd' y cynulliad. - Wedi i dim rygbi Cymru ddewis Graham henry o Seland Newydd fel eu hyfforddwr mae'r tim yn trechu Ffrainc ym Mharis a Lloegr yn Wembley ai dilywyr yn rhagweld oes aur newydd. Y tim yn chware yn Wembley am bod y stadiwm mileniwm newydd yng Nghaerdydd heb ei orffen.
- Awstralia yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
- Dusty Springfield, Stanley Kubrick, Dirk Bogarde, Cardinal Basil Hume Syr William Lloyd Mars-Jones, Emyr ( Feddyg) Jones, Meredith Edwrads, Elfed Lewis, Peter ( Goginan) Davies, Guto Roberts, Ioan Bowen Rees, Mathonwy Hughes, J.E.Caerwyn Williams, Raymond Edwards, Elen Roger Jones, Ifor Wyn Williams, Dick Richardson, Moc Morgan, Clive Jenkins, Esme Kirby, Syr Harry Llewellyn, Harriet Lewis, Eirene White, Gwyn Jones( Llenor ) yn marw.
Archdderwydd Meirion Evans Y Gadair Testun. Cerdd mewn cynghanedd gyflawn: 'Pontydd' Enillydd: Gwenallt Llwyd Ifan Beirniaid: John Gwilym Jones, Myrddin ap Dafydd, Dafydd Johnston |
| |  

|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Awdl delynegol am yr hollt rhwng dwy genhedlaeth, ac am hunaniaeth. Y Goron Testun. Dilyniant o gerddi: 'Golau yn y Gwyll' Enillydd: Ifor ap Glyn Beirniaid: Derec Llwyd Morgan, Iwan Llwyd, Einir Jon Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Cerddi cryf am gyfraniad y Dysgwyr i'r Gymru newydd hyderus. Ar lefel ddyfnach, mae'r cerddi hyn yn trafod problem hunaniaeth yn y Gymru ddwyieithog sydd ohoni, ac yn herio rhai syniadau traddodiadol ynghylch etifeddiaeth a threftadaeth, a Chymreictod yn gyffredinol. Y Fedal Ryddiaith Cyfrol o ryddiaith greadigol: 'Pan Ddaw Yfory' Enillydd: Sonia Edwards (Rhwng Noson Wen a Phlygain) Tlws y Ddrama Diddymwyd y gystadleuaeth ym 1993 Tlws y Cerddor Ceiri Torjussen Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |
|