| Hen Wraig | Gwn i be wna i. Mae'n llawn egni unwaith eto. Ar y dechra fi oedd yn arwain y ffordd a fo oedd yn dilyn, rwan fi sy'n ei ddilyn o! Gin i oedd agoriad y twr ac felly fi oedd yn ei agor, rwan mae'n rhaid i mi gloÂ’r drws tra'n gadal? |
| Mae'r hen wraig yn cerdded tuag at y botel ffisig a'r chwistrell a golwg benderfynol ar ei hwyneb. Mae'r llanc hefyd yn deffro ac yn camu i'r gris isaf gan estyn ei law allan tuag at y wraig. |
| Hen Wraig | Dyma sut yr aeth o, felly dyma sut yr af i! |
| Gan eistedd ar y gwely a llenwi'r chwistrell. Gwelwn nodwydd y chwistrell yn agosáu at ei braich a hithau'n crynu fel jeli. |
| Hen Wraig | Na, doeddwn i ddim ofn marw, ofn beth a ddeuai wedyn oeddwn i. |
| Mae'n dechrau pwmpio'r hylif i mewn i'w chorff. |
| I ble dw iÂ’n mynd dudwch? I ble... |
| Mae'r ffisig yn dechrau gweithio. |
| Dwi'n... mynd? |
| Mae'n gorwedd i lawr ac mae distawrwydd llethol yn ymledu dros y theatr. Yna, heb rybudd, mae'r hen wraig yn dechrau dadwisgo yn yr un modd â'r llanc nes ei bod yn gwisgo'r un dillad ffasiynol ag y gwisgai ar ddechrau'r ddrama. |
| Llanc | TiÂ’n dwad? Gan ddal llaw y ferch. Gad i ni fynd allan o'r lle yma... allan i'r awyr iach. Tyrd, blasu'r cyfan tra da ni'n cael y cyfla |
| Merch | Dwy galon yn curo... |
| Llanc | Caru nes bod o'n brifo... |
| Merch | Dowc cynta'r tymor... |
| Llanc | Torri iasÂ… |
| Merch | Teimlo'r croen yn llyfn a phoeth |
| Mae'r ddau yn syllu ar ei gilydd mewn ffordd ramantus, ac yna, yn araf maent yn dechrau ail ddringo'r grisiau. Pan gyrhaeddant ganol y grisiau clywir swn trên yn y pellter yn graddol gynyddu. Mae'r ddau yn stopio'n stond. |
| Merch | Glywi di o? Mae golwg bryderus ar ei hwyneb. Glywi di'r trên yna yn bell, bell i ffwrdd? |
| Llanc | Dwi'n i glywad o, i glywad o fel cloch. Mae golwg tra gwahanol ar wyneb y llanc, mae bron fel petai'n gwenu |
| Merch | Trên... Trên yn gadal, yn ffarwelio. Dagrau, tristwch... Yna gan droi at y llanc. Beth os mai nid dyma'n hamser ni? Dylen ni aros yn yr ystafell yma am ychydig mwy? |
| Llanc | Na. Na! Dwy ti’m yn dallt? Gwranda ar swn y trên, mae’n agosáu. Nid gadael mohono fo ond cyrraedd! Dylai swn y trên fod yn gryf iawn erbyn hyn. |
| Merch | Mae'n parhau i edrych yn amheus. Wel, ia, rwyt ti'n iawn ar hynny o beth, ond sut fedrwn ni wybod mai dymaÂ’n hamser ni? Beth am aros yn yr ystafell yma am ychydig eto. |
| Llanc | Dwy ti 'm yn gweld? Mae'n amlwg mai dyma'n hamser ni neu fuasai'r trên heb ddod. |
| Mae 'r swn yn newid wrth i drên stopio. |
| Llanc | Yn llawn cyffro. Mae o di cyrraedd! Tyd, neu mi fyddan ni'n rhy hwyr. Mae'n dechrau rhedeg i fyny'r grisiau gan ddal llaw y ferch,ond y mae hiÂ’n gwrthod symud. |
| Llanc | Tyrd, mi fyddi di'n iawn hefo mi. Gyda'n gilydd bob cyfri... |
| Merch | Ia, iawn! Yn benderfynol DwiÂ’n dwad. Gyda'n gilydd y gwnawn ni bob dim! |
| Mae'r ddau yn rhedeg i fyny'r grisiau ac o'r golwg. Yn y fan clywir swn y trên yn gadael ac yna'n distewi. Swn traed ar y grisiau. Yr hen wraig yn ymddangos yn gwisgo hen ddillad ac yn araf gerdded at y gadair wrth y gwely. Eistedd a rhythu ar y chwistrell. |
| Hen Wraig | Ei amsar o oedd hi, nid fy amsar i. Doedd dim lle i mi ar y trên |
| Tywyllwch |