

Cynllun Marcio yr Arholiad Llafar Edrychwch ar y pwyntiau canlynol er mwyn gweld sut i ennill marciau yn yr arholiad llafar Uwch Gyfrannol. Cofiwch fod yr arholiad llafar cyfan yn cyfrif am: - 40% o farciau yr Arholiad Uwch Gyfrannol Cymraeg
- 20% o farciau yr arholiad Uwch.
Byddwch yn trafod y ddrama mewn grwp o flaen arholwr allanol, ac asesir eich defnydd o'r iaith lafar a'ch gallu i ymateb i'r testun. Caiff marc o 10 ei neilltuo iÂ’ch defnydd o iaith lafar yn ystod yr arholiad a chaiff marc o 30 ei neilltuo iÂ’ch ymateb i'r ddrama - cyfanswm o 40 marc. Defnyddiwch y meini prawf ar gyfer Gradd A neu Gradd C er mwyn penderfynu sut i wella eich perfformiad chi. | Gradd A Uwch Gyfrannol | Bydd disgwyl i chi ar radd A wrth ateb: - gydadweithio ag eraill yn aeddfed
- ymestyn dadl yn ddeallus
- ymateb ac ymresymuÂ’n berthnasol acyn gryno ac mewn dyfnder
- arddangos adnoddau iaith cyfoethog
- cyfleu syniadau a dadleuon cymhleth yn glir ac yn groyw
- arddangos hyder a brwdfrydedd wrth fynegi barn a datblygu trafodaeth
Bydd rhaid ennill rhwng 8-10 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd A Yn y cynnwys bydd angen i chi: - arddangos gwybodaeth drylwyr oÂ’r ddrama
- crynhoi ffeithiau perthnasol yn effeithiol, eu cymhwyso aÂ’u cyflwynoÂ’n gydlynus
- arddangos dealltwriaeth dda o gysyniadauÂ’r testun
- dadansoddi a dehongliÂ’r testun yn dda
- datblygu ac ehangu syniadauÂ’n drefnus a chydlynus
- cyflwyno tystiolaeth drwy gyfeirio at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadauÂ’n effeithiol
- cyflwyno dadleuon gwreiddiol ac ehangu arnynt
- dadansoddi arddull yn effeithiol a chyfeirio'n ddeallus at y technegau a ddefnyddir
- defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn effeithiol
Bydd rhaid ennill rhwng 24-30 marc wrth ymateb i destunau cyn ennill gradd A
|
| Gradd C Uwch Gyfrannol | Bydd disgwyl i chi ar radd C wrth ateb: - gydadweithio ag eraill yn hyderus
- llwyddo i gynnal dadl
- ymateb yn berthnasol
- arddangos gafael gadarn ar yr iaith lafar
- cyfleu syniadau a dadleuon yn glir
- mynegi barn a chyflwyno rhesymau yn gyson
Bydd rhaid ennill 5 marc am y defnydd o iaith lafar cyn ennill gradd C Yn y cynnwys bydd angen i chi: - arddangos gwybodaeth oÂ’r ddrama gyda manylder ar adegau
- crynhoi rhai ffeithiau perthnasol aÂ’u cyflwynoÂ’n gywir
- arddangos dealltwriaeth foddhaol o gysyniadauÂ’r testun
- dadansoddi a dehongliÂ’r testun yn foddhaol
- datblygu ac ehanguÂ’r prif syniadauÂ’n drefnus
- cyfeirio weithiau at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau addas
- trafod agweddau ar arddull a chyfeirio at dechnegau a ddefnyddir.
- defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn eithaf cyson
Bydd rhaid ennill rhwng 15-19 marc, wrth ymateb i destunau, cyn ennill gradd C
|
|