

Beth yw Drama? Cyn astudio unrhyw ddrama mae'n bwysig eich bod yn dod i gasgliadau ynglyn â'r hyn yw drama.
Ydych chi'n cytuno gyda'r diffiniadau canlynol gan feirniaid llenyddol ynglyn â hanfodion drama dda? Gallech ddefnyddio rhai o'r dyfyniadau hyn yn eich arholiad llafar - i ba raddau mae'r dyfyniadau yn berthnasol i ddrama Y Twr? "Heb wrthdaro nid oes drama." Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth |
| "Nid oes drama heb bobl. Canolbwynt pob gweithred ddramatig a phob gwrthdaro yw perthynas pobl â’i gilydd." Beirniad Anhysbys |
"Yn gyffredinol mae dramodwyr modern wedi ceisio herio rheswm, ein harferion cymdeithasol aÂ’r hyn a gymerwn yn ganiataol yn foesol a materol." Ioan Williams - darlith ar lafar Yn Nant Gwrtheyrn |
"Mae’n un o amodau crefft dramodydd da ei fod yn dyfeisio personoliaethau yn hytrach na chymeriadau – mewn geiriau eraill fod ei bobl yn bobl gymhleth." Dr John Gwilym Jones, Swyddogaeth Beirniadaeth |
| "Dangos dyn fel y mae yn y byd hwn, yn ei drafferthion, ei ychydig wynfyd, ei ansicrwydd, ei ofn aÂ’i ofid, ei chwerthin aÂ’i ysmaldod, ei flinder, ei dranc; dyna fusnes y ddrama yn gyffredin." Saunders Lewis, Meistri a'u Crefft |
"Nid rhyddiaith llyfr yw iaith rydd drama. Y mae rhythmau clywadwy a miwsig llafar o angenrheidrwydd yn ofynnol yn y theatr." Saunders Lewis, Tri Dramaydd Cyfoes |
|