

Clustfeinio ar yr Arholiad Llafar 2. Yn yr Act Gyntaf mae’r ferch a’r llanc yn trafod marwolaeth. Oes arnyn nhw ofn marwolaeth? Hefyd, ystyriwch y pwyntiau crynhoi canlynol a dewch i gasgliadau: - Mae arni hi ofn sut y bydd hi farw "di marw’n cyfri dim i mi – ar ôl marw beth sy’n digwydd wedyn felly! …sut bydda i’n marw di’r peth… 'Swn i ddim yn lico marw fel Mam… cael ei byta’n fyw hefo poen... "Ydy popeth yn darfod mewn marwolaeth ddiystyr?"
- Ofn marwolaeth ei hun sydd ar y llanc
- Pan fo ef ar ei wely angau holant gwestiynau megis beth syÂ’n dilyn marwolaeth. Mae ef yn llawer mwy gonest wrth gyfaddef mai methiant fu ef mewn bywyd, "Methiant, blydi methiantÂ….cneuen wagÂ…"
- Ar derfyn y ddrama maeÂ’r hen wr yn hollol ffwndrus aÂ’i atgofion yn gawdel. Wedi iddo ofyn am gael dwbl y cyffur gan ei wraig
"Ti diÂ’r unig un i Â’ngollwng iÂ… TiÂ’n dalltÂ… LlonyddÂ…am bythÂ…yn urddasol." Urddas nas gwelwyd yn eu perthynas cynt.
- Mae ar y ddau ofn y swn y tu allan.
- Swn trên yn yr olygfa hon. Swn trên yn codi ofn ar y wraig – y trên yn symbol o ffarwelio ac ymadael iddi hi. Y gwr yn rhamantu ac yn gweld y trên fel symbol o gyrraedd ac o ddwad adre. Hyn sy’n esbonio pam mae’n hel atgofion rhamantus am y daith trên pan oedden nhw’n ifanc
- Daw gwên ar wyneb yr hen wraig wrth glywed swn y trên ar ddiwedd y ddrama, oherwydd bydd y trên yn ei chymryd hithau i ffwrdd oddi wrth bob peth rhyw ddydd a bydd popeth drosodd
- Yr hen wraig yn gadael i’r jwg lefrith gwympo i’r llawr. Yr hen wraig yn sylweddoli ei chyflwr, bod ei bywyd fel y jwg yn llithro drwy ei dwylo. "Mi fydd rhaid ei dringo hi…a fyddwn ni’n gwybod dim….dim teimlad….fel gwefus ar ôl bod mewn dentist."
- "Mi fyddi di’n well ar ôl hon." Ai celwydd yw geiriau’r wraig wedi iddi ddefnyddio’r syrinj, neu awgrym y bydd marwolaeth yn well iddo na bywyd.
Cwestiwn arall: |