MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Newyddion Chwaraeon Y Tywydd | ||
| BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb | |
Ysgrifennu Creadigol - Cyfres o Ymsonau Lluniwch gyfres o ymsonau un o'r cymeriadau yn y Twr, sy'n adlewyrchu'r gwahanol gyfnodau ym mywyd y cymeriad. Cofiwch, bydd angen i chi:
Ateb Enghreifftiol Peth braf yw bod yn ifanc, yn gallu rhedeg i fyny'r grisiau. Ydw, dw'i yma... o'r diwadd, dw'i yma yn y twr. Dw'i mor hapus ac yn llawn cariad tuag ato fo... "Be tasa rhywun yn dwad?" 0, be' sy'n bod arno fo? Pam na fedrith o ymlacio ychydig... i 'ngharu i? A phwy fydde'n dod yma ta beth? Pam na wneith o fel dw i'n dweud wrtho i wneud? Fi sy'n rheoli'r sefyllfa yma, a neb arall. * * * * * * * * * * 0, Ile mae o? Tri chwartar awr yn hwyr. Gyda'r ast. Sali Pritchard eto? 0, mi gaiff o bryd o dafod pan ddaw o adra... "Pwy ddysgodd di?" Y? Be mae'r twpsyn 'ma'n 'i ddweud rwan? Be' ma’ nhw’n ddeud am nyrsys? Be' sy'n bod ar y dyn yma? ... Be' o'dd hwnna? Dyna'r swn eto. Yn dod o gyfeiriad y grisiau... Pam 'dan ni yma?... 0 ble duthon ni?... 0, dyma fo'n cwyno eto, ond ma'n rhaid i ni fynd i fyny ryw dro on'd oes? Dw i'n disgwl ei fabi, mae o 'di addo trafod, ond mae o lawar rhy hwyr i hynny. Ma'r babi yma'n rhan ohona i, ac mae'n rhaid i ni ddringo'r grisiau troellog yma. Dringo gyda'n gilydd. * * * * * * * * * * "Welis i'r rioed darth yma o'r blaen"... Na finna... Dw i'n gwybod taw arwydd yw hyn fod rhaid i mi ei adael o fynd... ond ddim rwan! Rwy'n ei garu o ormod. Cheith o ddim mo 'ngadael i ! Mae'n gorwedd yn y gwely yna mor ddifywyd a llwyd. Ei fywyd yn cael ei sugno ohono fo. Ei getyn yn diffodd. Rwy’n casáu hyn... casáu gwylio'r fflam fach o fywyd yn diffodd, wrth i mi ei fwydo... fel babi! "0... yn bendant cyn yr ha'"... a dyma fi eto’n chwara’r gêm, yn cuddio'r gwir wrtho, wrth sôn am fynd i Toromolinos ha' nesa. Ma' bywyd mor greulon! Barn yr Arholwr Cynnwys:
Iaith ac Arddull:
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |