bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
»Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

DringoÂ’r Twr - Bywyd Gwenlyn Parry

  • Ganwyd yn 1932yn Neiniolen, neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galwÂ’r pentref.
    Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydroÂ’n barhaus yn erbyn tlodi.
    Mae nifer o feirniaid llenyddol yn gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddramâu.
  • Yn 1939aeth ei dad i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgoÂ’r trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dramâu Gwenlyn yn rhai cryfion.
  • Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.
  • Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref oÂ’r rhyfel.
  • Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn â’r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno â rhyfel yn dilyn holl hanesion erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF.
    Dywedodd iÂ’r cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y Twr a Sal gan iddo weld sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.
  • Wedi iddo ddychwelyd adref oÂ’r RAF aeth iÂ’r Coleg Normal ym Mangor iÂ’w hyfforddiÂ’n athro. Yno ymddiddorodd yn y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.
  • TraÂ’r oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol. Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddramâu syÂ’n peri i feirniaid weld ystyr grefyddol iddyn nhw.
  • Yn athro mathemateg ynLlundain daeth yn fwy cyfarwydd â byd y theatr a threuliodd lawer oÂ’i amser hamdden yn y West End.
    Dechreuodd hefyd ymhel â Chwmni Drama’r Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad â rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones. Hefyd, bu’n arwain nifer o nosweithiau llawen yma.
  • Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yma buÂ’n dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • TraÂ’n byw yng Nghaernarfon daeth i adnabod Huw Lloyd Edwards a fuÂ’n ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef aÂ’i perswadiodd i anfon ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn 1961. Daeth yn gyd-fuddugol.
  • Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
  • Yn y cyfamser buÂ’n actio a chynhyrchu yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones
  • Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol yn ysgol Dyffryn Ogwen lleÂ’r oedd erbyn hyn yn athro.
  • Yn 1966 ymunodd â’r BBC yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau.Dyma gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm aÂ’r ffilm Saesneg, Grand Slam.
  • Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ngwyl Ddrama Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.
  • BuÂ’n briod ddwywaith, yn gyntaf gyda Joy o Bontyberem ac wedyn gydag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.
  • Bu farw ar Dachwedd 5 1991, ac feÂ’i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy

Trending Now