Enw: | Llynwen Griffith (Nith) |
Lleoliad: | Bethesda |
Agtofion: | Pan oeddwn yn fach, 'rwyf yn cofio mynd i ty fy ewyrth a cerdded i mewn i'r gegin, a dyma'r llais yma yn dod o'r oergell, yn gofyn beth oedd fy enw, lle oeddwn yn byw, os oeddwn yn ferch dda, ac yn y blaen. Roeddwn wedi dychryn, y peiriant mawr yma yn siarad a mi, ond roeddwn yr un mor wirion, fe wnes ei ateb yn ôl heb feddwl, a dyna lle roedd y rhewgell a fi yn cael sgwrs! Roedd fy ewyrth yn gymeriad arbennig, roedd fel tad i mi, ac mae gennyf hiraeth mawr ar ei ôl. |
----------------------------------------------------------------------- |
Enw: | Ifan Wyn Evans |
Lleoliad: | Deganwy |
Agtofion: | Roeddwn i'n yr ysgol a'r Coleg Normal efo Gwenlyn, a dwi'n ei gofio fo'n gwneud sawl peth digri. Mi fydda'n mynd i Woolworth ym Mangor a gofyn i ferch ddiniwad wrth y cowntar am bethau gwirion fel criau wellingtons neu chwart o law tarannau! Ond un o'r pethau doniola dwi'n 'i gofio fo'n wneud oedd cerdded lawr stryd ym Mangor fel petae o'n arwain ci. Roedd o mor dda am wneud hynny nes fod ambell i gerddedwr yn cerdded rownd y ci dychmygol! |
----------------------------------------------------------------------- |
Enw: | Hafina Clwyd |
Lleoliad: | Rhuthun |
Agtofion: | Roeddwn i'n eistedd efo Gwenlyn yn stondin Cymry Llundain rhyw steddfod wlyb tua dechrau'r 70au, pan gerddodd Rhydderch Jones i mewn yn gwisgo Pac-a-mac fawr o'i ben i'w draed. Wna i byth anghofio beth ddywedodd Gwenlyn - "Iesu, Rhydd, ti'n edrych fel condom anferth"! |
----------------------------------------------------------------------- |
Enw: | Angharad Gwyn |
Lleoliad: | Caerdydd |
Agtofion: | Rhyw saith oed oeddwn i pan nes i gyfarfod Gwenlyn Parry yn Eisteddfod Môn yn '83. Ro'n i wrth fy modd pan nes i ddarllen am John Ogwen yn sôn am ei sgiliau o wneud llun Donald Duck, achos mi wnaeth Gwenlyn lun o Donald Duck i minnau hefyd!
|
----------------------------------------------------------------------- |
Enw: | Dafydd Mei |
Lleoliad: | Penygroes |
Agtofion: | Dwi'n cofio chwarae gêm bêldroed '5-aside' yng Nghaerdydd yn y 70au - tîm y New Ely yn erbyn y BBC. Yr unig rai dwi'n cofio yn y tîm oedd Gwenlyn, Rhydderch Jones a Dewi Pws. Mi dreuliodd Gwenlyn a Rhydderch ran fwyaf o'r gêm yn sefyll wrth y gôl yn smocio gan adael Dewi i wneud y gwaith caled o redeg rownd y cae! Dwi ddim yn cofio pwy enillodd! |
----------------------------------------------------------------------- |
Enw: | Owain Arfon Williams |
Lleoliad: | Caerdydd |
Agtofion: | Un waith y cyfarfûm i â Gwenlyn. Roeddwn i tua 10/12 oed (tua diwedd y 70au), a daeth Gwenlyn draw i'n ty ni yng Nghaerdydd i barti drefnwyd gan fy rhieni. Ro'n i wedi trio agor can cwrw mawr (tua 2 litr am wn i - can cwrw ar gyfer parti!) i fy rhieni yn ystod y parti, ond daeth Gwenlyn drwodd i'r gegin a dweud wrtha i bod angen agor y can yn y ddau ben er mwyn i'r cwrw allu llifo allan! Roedd hi'n amlwg fod ganddo fwy o brofiad na mi yn y maes bryd hynny! |
| |