MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Newyddion Chwaraeon Y Tywydd | ||
| BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb | |
Dramâu Gwenlyn Parry
Drama gyntaf Gwenlyn Parry. Roedd yn gydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961. Mae pedwar milwr Cymraeg yn cuddio mewn seler ty wedi ei fomio rywle ar arfordir Affrica noswyl Nadolig 1942. Maer tensiwn yn amlwg wrth iddyn nhw ddelio âr sefyllfa mewn gwahanol ffyrdd gydag un yn awyddus i geisio dianc. Ceir tro annisgwyl yn niwedd y ddrama pan ddaw Almaenwr ir seler. Y neges yw mai dynion o gig a gwaed ydym i gyd, beth bynnag ein cenedl. Drama fuddugol un act Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, am deulu yn un o bentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru. Y pedwar cymeriad yw William, gwr dros ei drigain oed, ei wraig Cadi ai blant Marged a Dic sydd yn eu harddegau. Amser brecwast, yn y gyntaf o ddwy olygfa, canfyddwn mai dyma ddiwrnod cyntaf Dic yn ei swydd newydd mewn siop ddillad. Mae hynnyn achosi tyndra gan y byddain well gan William, syn cael trafferth dygymod âi ymddeoliad ei hun or chwarel, pe byddai Dic wedi mynd i weithio ir chwarel hefyd. Yn yr ail olygfa, er mawr foddhad ir tad, cyhoedda Dic ar ei ddychweliad oi waith, iddo benderfynu mynd ir chwarel wedir cwbwl. Llwyddir i gyfleu bywyd chwarelwyr, yr ofn ar caledi. Yr olaf yn ei driawd o ddramâu byrion. Cydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963. Dan anasthetig mewn ysbyty mae meddwl Bili Puw yn crwydro ir cyfnod pan oedd ef ai wraig, Neli, yn blant. Wrth i Neli ddarganfod ei bod yn feichiog mae bywydaur ddau yn newid dros nos. Maer ddau yn ffraeon ddi baid â mam Bilin poeni am y gwarth ar y teulu. Atgofion cymysg sydd yma dan ddylanwad anasthetig ac maen pennau ninnaun troi o gael ein cyflwyno ir holl gymeriadau lliwgar. Roedd Bili hefyd yn destun gwawd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel. Ar ddiwedd y ddrama y cawn wybod mai cael tynnu ei bendics y mae Bili, gan roi mwy nac un ystyr ir teitl, Poen yn y Bol. ![]() Drama fawr gyntaf Gwenlyn Parry gydag elfennau o theatr yr abswrd. Drama hir mewn chwe rhan wedi ei gosod yng ngweithdy Ifans, y saer doliau. Ar ddechraur ddrama mae Ifans yn ddyfal yn trwsio pentwr o ddoliau sydd wedi torri. Yn y bedwaredd ran daw prentis ir gweithdy gan amlygur tensiwn rhwng y ddwy genhedlaeth, gydag Ifans bron â chyrraedd pen ei dennyn wrth ir ferch ar prentis darfu ar ei fyd ai orfodi i fabwysiadu eu dulliau au hoffer newydd nhw. Mae Ifans fel petain ofni Y Fo sydd yn y seler ar Fo syn cael y bai am bopeth aiff oi le. Maen ffonior Giaffar yn aml i ofyn cyngor a chwyno am Y Fo ar prentis newydd. Ond ni ddywedir wrthym a ywr Giaffar yn berson o gig a gwaed ynteun rhywun yn nychymyg Ifans. Un dehongliad yw mai portread or ddynoliaeth sydd yma ac mai pobl ywr doliau syn cael eu trin gan Ifans ac mai Duw ywr Giaffar y mae Ifans yn galw arno am gymorth. Ni sydd i benderfynu felly a oes rhywun y pen arall ir ffôn. Perfformiwyd gyntaf yn 1968 gan Gwmni Theatr Cymru. Y ddau brif gymeriad yw Gwr y Ty a Gwr y Ffair ar lleoliad yw caban Gwr y Ty ar draeth gyda rhan ohono wedi suddo ir tywod. Gerllawr caban mae ffair syn ehangun gyflym, mae'r caban yn rhwystro datblygiad pellach. Maer gynulleidfa hefyd yn dechrau amau fod y gwr yn wallgof wrth iddo gludo delw y mae wedi ei ddwyn or ffair ir caban ar ddechraur ddrama, ac yn sôn wrth y ddelw am ei elyn pennaf, Gwr y Ffair. Er mawr synod inni maer ddelw yn troin ferch o gig a gwaed yn ystod y ddrama. Yn fuan cyhuddir Gwr y Ty o ddwyn y ddelw gan bâr ifanc a daw Gwr y Ffair yno iw orfodi i symud or caban. Ond yn rhyfedd erbyn diwedd y ddrama mae pethau wedi troi wyneb i waered gyda Gwr y Ty yn berchen y ffair. Gellir dweud fod y ddau gymeriad yn cynrychiolir ddynoliaeth yn ei brwydr am rym a materoldeb. ![]() Y Ffin oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Dyffryn Clwyd, 1973. Drama ddwy act yw hon a chwt bugail ar ochr mynydd yw ei lleoliad. Ceir ynddi dri chymeriad sef Wilias, gwr canol oed, Now, llanc ugain oed a dringwr, merch tua deg ar hugain oed. Cymeriadau digon rhyfedd yw Now a Wilias. Wilias sydd wedi prynur cwt ac ni all Now gredu ei fod wedi gwneud peth mor ffôl pan wêl gyflwr truenus y lle ac maen cyhuddo Wilias oi gamarwain. Maer tensiwn yn amlwg rhwng y ddau or dechrau ar tyndra hwnnwn cynyddu wrth ir ddau geisio cyd-fyw. Mae pethaun gwaethygu pan ywr ferch yn cyrraedd ddiwedd yr act gyntaf. Erbyn yr ail act maer rhwyg rhwng y ddau yn amlwg wrth ir ddau fod am y gorau yn ceisio plesior ferch syn graddol chwalu'r berthynas rhyngddynt . Oi herwydd hi ni all dau a oedd yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd ddioddef ei gilydd a thynnir llinell o baent yn ffin drwy ganol y cwt. Erbyn y diwedd mae pob math o bethau wedi eu gosod ar y ffin, stand hetiau, lein ddillad... wrth iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i dorrir cysylltiad rhyngddynt. Diweddar ddrama yn swn y ddaun wylo yn y tywyllwch gan alwn dorcalonnus ar y ferch. ![]() Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978. Fel yn Y Ffin, darlunio'r berthynas rhwng dau maer Twr ond y tro hwn perthynas gwr a gwraig. Taith bywyd dau a gyfleir yma wrth iddyn nhw ddringo'r twr. Gwelir hwy yn heneiddio ar dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo. Drama dair act yw hon gyda phob golygfa yn ystafelloedd y twr - yr act gyntaf yn yr ail stafell ar ddau gymeriad yn ifanc. Defnyddir ffilm i ddangos lluniau ohonyn nhw yn blant yn chwarae ar lan y môr cyn rhedeg i fynyr grisiau ir ystafell. Mae hyn yn cyfleu mai ieuenctid ywr stafell gyntaf au bod yn awr yn camu i gyfnod newydd yn eu bywydau. Maer ddau yn fywiog, hapus a llawn brwdfrydedd. Bu newid erbyn yr ail act ar ddau yn ganol oed. Geiriau cyntaf y wraig ydi, "Be ddiawl dwin i neud yn fanma?" ar gwr "Dwi wedi cael llond cratsh!". Nid yw perthynas y ddau gystal a bu dieithrio. Erbyn y drydedd act, hen wr a hen wraig ywr ddau sydd wedi ymlâdd ar ôl dringor grisiau dim ond i ganfod fod yna fwy o risiau er iddynt gredu mair stafell hon oedd pen y daith. "Ond fanma dir stafell ddwytha.....awn ni ddim o fanma....sdim isio blydi grisiau arall!" meddair hen wr. Rhaid sylwi ar y defnydd or trên yn y ddrama hon hefyd. Yn yr act gyntaf dywed y ferch ifanc "Ma na rwbath neis mewn swn trên yn bell yn y nos! Perfformiwyd Sal am y tro cyntaf yn 1980. Mae wedi ei seilio ar ddigwyddiad hanesyddol ac yn dra gwahanol i ddramâu eraill Gwenlyn Parry. Mewn achos llys gelwir tystion ir presennol o 1869. Gyda goleuo effeithiol mae gwahanol rannau or llwyfan yn cynrychioli gwahanol leoliadau gan alluogir gynulleidfa i weld beth arweiniodd at yr achos llys. Yn 1869 honnodd gwr fod ei ferch, Sal, wedi byw am bron i ddwy flynedd heb fwyta gan ddweud iddi gael ei dewis gan Dduw. Er bod mam Sal, y ficer lleol a Dr Davies, meddyg y teulu yn credu hyn hefyd, nid felly Dr Hughes, meddyg arall, a dwy nyrs a ddaeth i gadw llygad ar Sal. Yn y diwedd mae Sal yn marw a dyma sydd wedi arwain at yr achos llys gydar amddiffynnydd yn dadlau fod Sal wedi llwyddo i fyw heb fwyd, ond yr erlynydd yn dadlau mai twyll ywr cyfan. Y gynulleidfa sydd i benderfynu pwy syn dweud y gwir ac a yw rhienir ferch yn euog o ddynladdiad. Rhan or cyfarwyddiadau llwyfan yw: "Dylid chwaraer ddrama yn ddidoriad fel nad ywr gynulleidfan cael cyfle i sgwrsio âi gilydd tan y diwedd." Y gynulleidfa ywr rheithgor sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw a ydym yn credu yn Nuw. Fel y dywed tad Sal: "Ond nid ni sy yn y glorian...dach chin dallt pwy sy yn y glorian?" Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun ar Fro, 1986 a drama olaf Gwenlyn Parry. Gellir dadlau mai dymar ddrama orau o ran technegau theatrig. Y mae wedi ei gosod mewn theatr ac maer prif gymeriadaun rhan o bantomeim, Dick Wittington, sydd iw berfformio ar y llwyfan. Prif gymeriad y ddrama yw Robat Deiniol syn cael perthynas â Sera, prif gymeriad y pantomeim. Mae hithaun rhoi pwysau arno i adael ei wraig ac ni all Robat ymdopi âr argyfwng hwn yn ei fywyd. I waethygur sefyllfa mae Seran feichiog. Ceir yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto ar ystafell wisgo. Yn yr ystafell wisgo gwelwn ddrama bywyd Robat Deiniol. Maer cyd-chwarae rhwng y ddau leoliad yn gweithion berffaith i gyfleu emosiynau a bywydaur prif gymeriadau. Mae ein sylw nir gynulleidfa yn cael ei symud or naill ir llall ac mae llawer o hiwmor ac eironi yn deillio or berthynas hon. Does dim dwywaith nad yw hon yn ddrama emosiynol. Mae rhain ystyried y ddrama fel rhyw fath o hunangofiant gan Gwenlyn Parry ac mai ef ei hun mewn gwirionedd yw Robat Deiniol. Amlygir yr elfennau hyn orau yn araith Robat Deiniol yn Dressing Room One. Pantomeim bywyd a geir yma ac ar ddiwedd y ddrama maer ddwy ddrama wedi asion un a Seran cerdded ar hyd y llwyfan nid fel Dick Wittington y tro hwn ond yn ei dillad ei hun ac yn gadael go iawn. | |||
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |