
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Pêl-droed
Pwy yw dy hoff berson? Fy arwr ydy Steven Gerrard sy'n chwarae i dim pêl-droed Lerpwl
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Chwarae pêl-droed - a gwylio hefyd.
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Pan ma' Lerpwl yn colli!
Beth yw dy hoff liw? Coch wrth gwrs - lliw Lerpwl a Cymru!
Beth sy'n dy gyffroi di? Gweld Lerpwl yn ennill. Yr atgof gorau sydd genai ydy Lerpwl yn ennill y Champions League yn 2005.
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hÅ·n? Rwy'n astudio gwaith coed yn coleg ac yn bwriadu bod yn saer.
Ble mae dy hoff le? Anfield, cartre Lerpwl. Rwy'n mynd yno gyda Dad i weld Lerpwl yn chwarae. Mae llun Anfield ar wal y 'stafell fyw yn tÅ· ni erbyn hyn ble oedd llun priodas Mam a Dad!
Beth sydd yn dy boced? Ffôn
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Rwy'n gallu bod yn ddoniol iawn - weithiau!
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...

Andrew
Michael
Elin
Steff 