
Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Mae 'na gymaint o bethau dwi'n hoffi. Mae mynd i bartis yn uchel ar y rhestr. Ac wrth gwrs, fy ffrindiau. Ma nhw i gyd yn grêt a mi ydan ni o hyd yn cael gymaint o hwyl. Mae actio a cherddoriaeth yn bethau dwi'n hoffi hefyd.
Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Does gennai ddim un..dwi'n lecio pawb 'run fath am gymaint o wahanol resymau!
Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Mae gwrando ar bobl a siarad efo pobl yn fy ngwneud i'n hapus. Ma' ymlacio a jyst ymlacio allan efo ffilm neu lyfr yn cŵl weithiau.
Beth sy'n dy wneud di'n flin? Pobl sydd ddim yn rhoi siawns deg i bobl eraill mewn bywyd.
Beth yw dy hoff liw? Wel...dwn im...mae o wedi newid lot. Mae fy ystafell wely yn oren ar hyn o bryd...
Beth sy'n dy gyffroi di? Profiadau newydd a gwahanol
Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hŷn? Rhywbeth yn y byd actio a ffilm dwi'n meddwl. Unai actio o flaen y camera neu gyfarwyddo (neu ryw swydd arall tu ôl i'r camera)
Ble mae dy hoff le? Dwi'n meddwl fy mod i eto i ffindio fy hoff le yn y byd i gyd - ond mae llefydd o gwmpas lle dwi'n byw yn hyfryd iawn. Dwi hefyd yn hoff iawn o Lundain, mae'n lle 'retro' sydd o hyd yn brysur.
Beth sydd yn dy boced? Ffôn - mae'n beth pwysig iawn i mi. Y teclyn sy'n gallu cadw fi mewn cysylltiad efo unrhywun pryd bynnag dwi eisiau. Mor handi!
Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Dwi'm yn siwr. Mae o i fyny i bobl eraill benderfynu hynny! Fyswn i'n hoffi meddwl am fy hun fel person reit allblyg ac hawdd i siarad gyda.
Eich sylwadau
Bydd y cynta i gyfrannu...

Andrew
Michael
Elin
Steff 