BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, Gwegang

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us


Amy

Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Ffôn, laptop, cds, dvds a gajets eraill.

Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Rwy'n byw eitha agos i'm ffrind gorau, Annie.

Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Mae gwrando ar gerddoriaeth bob amser yn gwneud fi'n hapus. Ma' 'My Chemical Romance' yn un o fy hoff fandiau ar hyn o bryd.

Beth sy'n dy wneud di'n flin? Methu siarad gyda fy ffrindiau pan mae'r credit ar fy ffôn wedi rhedeg allan.

Beth yw dy hoff liw? Mae porffor yn liw llawn hwyl - dyna ydy lliw fy ystafell wely.

Beth sy'n dy gyffroi di? Gwylio bandiau byw a mynd i gigs. Roeddwn wrth fy modd cael gweld My Chemical Romance yn fyw yng ngŵyl 'Full Ponty' eleni.

Beth wyt ti eisiau gwneud pan ti'n hÅ·n? Rwy'n un sy'n hoff iawn o gael sylw felly byddwn yn hoffi perfformio, ar y teledu neu ar lwyfan. Rwy'n gwneud TGAU drama.

Ble mae dy hoff le? Y parc lleol ydy'r lle rwy'n treulio amser gyda fy ffrindiau. Hefyd, fi'n hoffi bod ar lan y mor pan fi'n mynd ar fy ngwyliau gyda'r teulu. Does dim byd gwell na gweld yr haul yn machlud.

Beth sydd yn dy fag? Lot o jync! Pethau fel ffôn, siaced, deodorant, siocled a lot o make up!

Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Fy slipers newydd fynci!




Eich sylwadau

del, 16
Helo amy,sut wyt ti?maer wefan ar ty yn 'mega cool'!!!delXXX

Cysylltu

Sgen ti neges i Amy?

Enw neu ffugenw

Oedran:

Neges:


Mae Mosgito'n trin pob neges yn gyfrinachol - ond ma croeso i ti ddefnyddio ffugenw os oes yn well gennyt. Mae gan Mosgito'r hawl i ddethol negeseuon a'u golygu. Yn anffodus, nid yw'n bosib ateb pob neges.



Anfon dy gynnwys


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy

Trending Now