Fishlock a Fitzpatrick ar restr anrhydeddau'r Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yw'r chwaraewr cyntaf i ennill dros 100 o gapiau dros Gymru

Mae'r pêl-droediwr Jessica Fishlock yn un o'r Cymry sydd wedi eu gwobrwyo ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines eleni.

Mae seren tîm pêl-droed merched Cymru, yr unig un i ennill dros 100 o gapiau dros y wlad, yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i bêl-droed merched a'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.

Ymysg yr enwau adnabyddus eraill o Gymru mae'r sgïwr Paralympaidd Menna Fitzpatrick.

Bydd Fitzpatrick, yr ifancaf ar y rhestr, yn derbyn MBE am wasanaeth i Gemau Paralympaidd y Gaeaf ar ôl ei llwyddiant yn y gemau yn Pyeongchang eleni.

'Llwyddiannau anhygoel'

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei bod hi'n "bleser" iddo longyfarch y rhai ar y rhestr.

"Mae'r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiannau anhygoel unigolion eithriadol sy'n gweithio'n ddiflino i wella bywydau pobl eraill ac i ysbrydoli'r rheiny sydd o'u cwmpas," meddai.

"Rwy'n falch o weld pobl o Gymru, o bob cefndir, yn cael eu cydnabod am eu llwyddiannau, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'w cymunedau."

Linebreak
  • Mae'r anrhydeddau'n rhoi cydnabyddiaeth i bobl sydd wedi gwneud llwyddiannau mewn bywyd cyhoeddus neu helpu Prydain;

  • Cafodd y system ei sefydlu yn 1917 gan y Brenin George V;

  • Crewyd y rhestr er mwyn anrhydeddu'r rhai nad oedd wedi ymladd ond oedd wedi chwarae rôl bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Linebreak

'Ysbrydoliaeth i bawb'

Wrth drafod llwyddiannau Jess Fishlock, dywedodd Mr Cairns ei bod hi'n "chwaraewr arbennig, yn esiampl barhaol ac yn ysbrydoliaeth i bawb".

Roedd neges debyg yn cael ei gyfleu wrth iddo drafod anrhydedd Menna Fitzpatrick hefyd, gan ddatgan ei bod hi wedi "cipio dychymyg pobl" gyda'i pherfformiad yn y Gemau Paralympaidd diweddar.

"Gyda'i thywysydd Jen Kehoe, fe ddangosodd Menna gryfder meddyliol arbennig i ennill yr holl fedalau, gan gynnwys y fedal aur," meddai.

Roedd perfformiad Fitzpatrick yn y gemau yn Pyeongchang yn ddigon iddi gael teitl Paralympiwr Gaeaf fwyaf llwyddiannus Prydain, a hithau ond yn 20 oed.

Menna Fitzpatrick a Jen KehoeFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Menna Fitzpatrick (dde) un fedal aur, dwy fedal arian ac un efydd yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf

Ymhlith y Cymry eraill ar y rhestr mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin.

Bydd Mr Polin yn derbyn OBE am ei wasanaeth i blismona.

Mae nifer o Gymry eraill hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr anrhydeddau am eu gwasanaeth i wahanol feysydd, ac mae modd gweld y rhestr yn llawn ar wefan Swyddfa'r Cabinet., dolen allanol

Dywedodd Fishlock ei bod yn "fraint enfawr" cael ei chydnabod "am bwy ydych chi a beth 'dych chi'n ei wneud".

"Mae'n grêt i mi a fy nheulu a'r garfan hefyd, mae'n grêt i weld ein bod ni'n cael ein cydnabod fel pêl-droedwyr a bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad iawn."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gallu bod yn ysbrydoliaeth i'r gymuned LGBT a'i fod yn bwnc sydd yn "agos at fy nghalon".

Straeon perthnasol

Trending Now