Eisteddfod: Parcio a thraffig yn bryder i fusnesau ardal Tregaron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd dim parcio
Disgrifiad o’r llun,

Mae arwydd 'dim parcio' wedi ei osod yn Nhregaron ar gyfer cyfnod yr Eisteddfod

GanMeleri Williams
BBC Cymru Fyw

Dyw trefniadau parcio a thraffig Tregaron adeg yr Eisteddfod Genedlaethol "ddim yn ddigon" yn ôl perchennog busnesau.

Wrth i'r ardal baratoi i gynnal y brifwyl, sy'n agor nos Wener, mae rhai wedi codi cwestiynau am lefydd parcio a threfniadau traffig yn ystod yr ŵyl.

Er ei bod yn gobeithio elwa wrth i ymwelwyr heidio i'r dref, dywedodd perchennog cigydd a chaffi bod prinder lle parcio i staff ac ymwelwyr yn "bryder".

Dywedodd perchennog busnes glanhau ffenestri y bydd yn osgoi'r ardal yn llwyr dros y cyfnod gan nad oes "unrhyw gyfathrebu" wedi bod.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod wedi gweithio gyda'r cyngor sir a'r gwasanaethau brys i greu trefniadau sy'n lleihau traffig ac yn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Sgwâr Tregaron
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dim modd parcio ar sgwâr Tregaron nac ar y brif ffordd ond bydd "rhai mannau parcio amgen" yn ôl yr Eisteddfod

Bydd system unffordd yn rhedeg trwy dref Tregaron a maes parcio yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na pharcio yn y prif sgwâr ac ar y ffordd.

Yn ôl Annwen Evans, 29, perchennog siop goffi Y Banc a Chigydd Evans, mae prinder llefydd parcio yn "bryder".

"Fi ddim yn credu bod y Steddfod wedi creu digon o barcio i bobl yr ardal. Does dim digon o le a dyw e ddim really yn ddigon da," dywedodd.

Annwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annwen Evans yn berchen ar ddau fusnes yn Nhregaron ac yn pryderu am brinder llefydd parcio i'w staff a chwsmeriaid

"Gyda'r amount o bobl sy'n mynd i ddod mewn, ma' pob holiday let yn llawn, bydd lot mwy o geir, carafans yn dod drwyddo.

"Os chi'n dod â rhywbeth massive i dref mor fach, mae eisiau mwy o le, nid llai o le parcio.

"Mae'n bach o worry. Lle ni'n gallu ca'l staff mewn, lle ma' nhw'n mynd i barcio?

"Mae lot o bobl hŷn yn gorfod gyrru lawr. Maen nhw'n mynd i gael eu heffeithio."

Siop goffi Y Banc yn NhregaronFfynhonnell y llun, Annwen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annwen Evans yn gobeithio y bydd ymwelwyr â'r Eisteddfod yn cerdded o'r maes i lawr i'r dref

Er ei bod wedi mynychu cyfarfod gyda phobl leol a'r Eisteddfod, ychwanegodd nad yw wedi derbyn llawer o rybudd am y trefniadau newydd.

"Dwi'n byw ar y prif stryd, mae dau fusnes gyda fi, a dim ond echddoe [dydd Sul] ges i lythyr drwy'r drws yn dweud bo' fi ddim yn gallu parcio 'na.

"Mae 'na le mewn maes parcio ochr arall y dre, ond does dim allocated spaces, felly ma' hwnna'n mynd i fod yn drafferth."

Ond, ychwanegodd Annwen ei bod yn gobeithio elwa o fwy o gwsmeriaid newydd ac ymwelwyr fydd yn cerdded o faes yr Eisteddfod i'r dref.

Mapiau yn dangos system unffordd Tregaron a Stryd Coleg Llanbedr Pont Steffan ynghauFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Bydd system unffordd yn nhref Tregaron yn ogystal â threfniadau parcio amgen, a bydd gwaharddiad dros dro ar barcio ar Stryd y Coleg yn Llanbedr Pont Steffan hefyd

Mae Peter Billing yn berchen ar fusnes glanhau ffenestri yn yr ardal.

Pan ofynnwyd iddo os oedd wedi derbyn gwybodaeth am y trefniadau, dywedodd: "Pa gyfathrebu? Dwi ddim wedi clywed unrhyw beth. Dim ond trwy ddigwydd gweld neges ar Facebook."

Dywedodd y bydd yn osgoi Tregaron yn llwyr oherwydd y system unffordd a'r traffig ar y ffyrdd.

"Mae'n mynd i effeithio arna' i. Bydd yn rhaid i fi osgoi Tregaron," meddai.

"Bydda i'n canolbwyntio ar ardal Aberystwyth ond mae'r junction i'r brif heol yn Llanfarian yn mynd i fod yn nightmare.

"Mae gymaint o draffig yn mynd i fod ar yr heol 'na i Aberystwyth a 'nôl, dwi'n gobeithio bydd yr heddlu neu rhywun yn trio ei reoli."

Camgymeriad ar arwydd yn Nhregaron sy'n dweud nad oes modd parcio am 310 milltirFfynhonnell y llun, Dylan Lewis/Clonc360
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Ceredigion bellach wedi cywiro arwydd oedd yn dweud nad oedd modd parcio am 310 milltir ar Stryd y Coleg yn Llanbedr Pont Steffan

Yn Llanbedr Pont Steffan, bydd llai o barcio ar brif ffyrdd yno hefyd er mwyn lleddfu ar dagfeydd.

Dywedodd Leon Holmes, sy'n berchen ar siop trin gwallt Y Barbwr, fod gan bobl yr ardal a pherchnogion busnesau "deimladau cymysg".

"Ma' lot o bobl wedi bod yn siarad am biti fe, y ffaith bod ni'n colli lot o'r parcio am ddim a'r llefydd am gyfnod byr," dywedodd.

"Nawr, bydd lot o bobl leol yn gorfod talu a 'na pam ma' pobl yn grac.

"Ma' mixed emotions am yr holl beth really. Ar un llaw, bydd mwy o bobl yn dod drwy'r dref ac yn gweld ni, ond wedyn achos y traffig a'r parcio falle bydd cwsmeriaid yn cadw draw."

Conau traffig yn cael eu gosod ar ochr y ffordd yn Nhregaron
Disgrifiad o’r llun,

Roedd conau traffig yn cael eu gosod ar ochr y ffordd yn Nhregaron fore Mercher

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod mai ceisio rheoli traffig yw nod y trefniadau.

"Mae'r Cyngor Sir, y gwasanaethau brys a'r Eisteddfod wedi bod yn gweithio ar gynllun rheoli traffig dros y misoedd diwethaf, sy'n cynnwys system unffordd a newidiadau i gyfleoedd parcio ar y stryd," meddai.

"Bwriad y cynllun yw torri i lawr ar dagfeydd, a sicrhau bod Tregaron yn ddiogel ar gyfer trigolion lleol ynghyd â'r miloedd o ymwelwyr a fydd yn heidio i'r ardal, ac mae'n rhaid cyflwyno rhai newidiadau dros-dro i systemau teithio a pharcio'r dref er mwyn sicrhau hyn."

Ychwanegodd y bydd mannau parcio amgen ar gyfer "rhai o drigolion a pherchnogion busnesau'r dref" a dywedodd y llefarydd bod yr Eisteddfod wedi cysylltu gyda phawb sy'n cael eu heffeithio.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn cydweithio gyda'r Eisteddfod i roi'r "trefniadau pwrpasol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd, dolen allanol yn y cyfnod cyn, yn ystod, ac ar ôl y brifwyl".

"Cynghorir gyrwyr i wirio pa gyfyngiadau parcio fydd ar waith yn yr ardal, dolen allanol a dilyn yr arwyddion a'r cyfarwyddiadau fydd yno i dywys pawb yn hwylus ar hyd y ffyrdd yn ystod y cyfnod hwn."

Pynciau cysylltiedig

Trending Now