Lluniau: Gyrfa Aaron Ramsey

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fe ddaeth y cyhoeddiad bore Dydd Mawrth, 7 Ebrill, bod Aaron Ramsey yn ymddeol o bêl-droed.

Enillodd Ramsey 86 cap dros Gymru, gan sgorio 21 gôl. Mae'n cael ei gydnabod fel un o chwaraewyr gorau Cymru erioed, ac roedd gyda chlwb Arsenal am dros ddegawd.

Felly, dyma olwg o rai o brif ddigwyddiadau gyrfa ddisglair y bachgen o Gaerffili.

Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Daeth doniau Aaron Ramsey i'r amlwg yn gynnar tra roedd yn chwarae pêl-droed gyda'r Urdd, ac yna daeth cynnig i ymuno â Chaerdydd

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Ramsey ei gêm gyntaf dros yr Adar Gleision ar 28 Ebrill, 2007, yn erbyn Hull City. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb ar y pryd, yn 16 mlwydd ac 124 diwrnod oed

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar 17 Mai, 2008, fe chwaraeodd Ramsey yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Ond colli fu hanes yr Adar Gleision, 1-0 yn erbyn Portsmouth

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddodd Aaron Ramsey dros gewri gogledd Llundain, Arsenal, ar 13 Mehefin, 2008

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth ei gôl gyntaf dros y clwb yn erbyn Fenerbahçe yng Nghynghrair y Pencampwyr yn Istanbul ar 21 Hydref, 2008

Ramsey'n ennill ei gap cyntaf
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cap rhyngwladol cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Brøndby, Copenhagen. Enillodd Cymru'r gêm, diolch i gôl gan reolwr presennol Cymru, Craig Bellamy

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn nhymor 2010-11 chwaraeodd bum gêm ar fenthyg gyda Nottingham Forrest, cyn mynd nôl i Gaerdydd ar fenthyg, ble chwaraeodd chwe gêm

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn anaf cas iawn wedi tacl gan Ryan Shawcross mewn gêm yn erbyn Stoke City yn 2010 roedd llawer yn ofni na fyddai Ramsey'n dod 'nôl yn cystal chwaraewr.

Ond wedi cyfnod hir yn gwella o lawdriniaeth daeth ei safon i'r amlwg unwaith eto, er mawr ryddhad i gefnogwyr Arsenal a Chymru

Ramsey captenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 20 oed cafodd ei benodi'n gapten ar y tîm cenedlaethol gan Gary Speed, gan arwain y garfan yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd ar 26 Mawrth, 2011

Ramsey a HenryFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd Ramsey gyda rhai o fawrion y gêm, gan gynnwys Thierry Henry - yma ym Maes Awyr Luton ar y ffordd i chwarae AC Milan yn 2012

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dathlu sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Hull City yn ffeinal Cwpan FA Lloegr, 17 Mai, 2014

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn codi tlws yr FA o flaen y cefnogwyr gyda golwr Arsenal, Wojciech Szczesny, 18 Mai, 2014

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dathlu sgorio gôl arbennig yn erbyn Galatasaray yn Istanbul, 9 Rhagfyr, 2014

Ramsey v Gwlad BelgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn rhediad bythgofiadwy Cymru yn Euro 2016, cafodd Ramsey ei enwi yn 'nhîm y bencampwriaeth' gan UEFA, ynghyd â Chymro arall, Joe Allen

Ramsey FA CupFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dathlu ennill ei drydedd Gwpan FA yn 2017. Fe sgoriodd y gôl fuddugol mewn dwy ffeinal - yn erbyn Hull City yn 2014 ac yn erbyn Chelsea yn 2017

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carreg filltir arall - ei hatric gyntaf, yn erbyn Everton ar 3 Chwefror, 2018

Ramey JuventusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn haf 2019 fe arwyddodd dros y cewri Eidalaidd, Juventus

HwngariFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar y ffordd i gyrraedd Euro 2020 Ramsey oedd seren y gêm yn y fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd, gan sgorio'r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0

JuveFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ramsey gyda Juventus am dri thymor, gan fynd ar fenthyg i Rangers am y mwyafrif o'i drydedd flwyddyn gyda'r clwb.

Ond gyda'i amser gyda Juve fe enillodd bencampwriaeth Serie A, Coppa Italia a'r Supercoppa Italiana

Ramsey RangersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ei gyfnod gyda Glasgow Rangers yn eitha' siomedig, ac roedd yn gyfnod rhwystredig iddo gydag anafiadau

Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ramsey'n rhan o ganol-cae Cymru wrth i'r wlad fynd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd yn 2022

Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bale a Ramsey, y bartneriaeth arbennig i Gymru am dros ddegawd

Ramsey NiceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn cael ei ddilyn gan Lionel Messi tra'n chwarae dros OGC Nice yn 2022-23

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dychwelyd i ble gychwynnodd y cyfan. Rhwng 2023 ac 2025 roedd Ramsey yn ôl gyda'r Adar Gleision, ble chwaraeodd 23 gêm yn unig oherwydd anafiadau

RamseyFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bel-Droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y cap olaf - buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Montenegro yn Niksic ar 9 Medi, 2024

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2025 fe gymrodd Ramsey yr awenau gyda Chaerdydd am gyfnod yn dilyn ymddiswyddiad Omer Riza

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar 1 Gorffennaf, 2025, arwyddodd dros glwb Pumas UNAM yn Coyoacán, Dinas Mecsico. Eto fe wnaeth anafiadau amharu ar ei berfformiadau, a dim ond chwe gwaith y gwnaeth chwarae i'r clwb

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now